
Archwiliwch Bae Caerdydd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Bae Caerdydd tuag at y morglawdd. Mae’r llwybr yn gwbl wastad ac mae golygfeydd godidog yn edrych yn ôl am Gaerdydd, Ynys Echni, a draw i i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Bae Caerdydd Ramblers Cymru

- Wrth i chi adael yr orsaf drenau, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’r chwith gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Canolfan y Mileniwm. Ewch am y ffordd a mynd i’r dde ac yna i’r chwith i ddefnyddio’r man croesi a’r goleuadau i fynd draw i ochr arall Rhodfa Lloyd George. Ewch i’r dde yma, gan basio o flaen Canolfan y Ddraig Goch - adeilad modern yr olwg lle mae digon o opsiynau o ran bwyd a diod, yn ogystal â gweithgareddau i’r teulu fel bowlio deg a sinema.
- Ewch ymlaen i groesi ffordd ac yna cerddwch o flaen adeilad efydd trawiadol Canolfan y Mileniwm, ynghyd ag ardal agored Roald Dahl Plass ar y dde. Cerddwch yn syth yn eich blaen i gyrraedd adeilad brics coch y Pierhead lle gwelwch eich golygfa gyntaf o ardal y Bae. Ewch i’r chwith yma o flaen y Pierhead lle daw Adeilad y Senedd Llywodraeth Cymru i’r golwg ar y chwith.
- Bydd ein taith gerdded nawr yn dilyn y glannau gymaint â phosibl ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Bae Caerdydd - cadwch lygad am yr arwyddion. Dilynwch lan y dŵr i basio'r Eglwys Norwyaidd wen a’r gofeb i daith Capten Scott i’r Antarctig yn 1910. Ewch yn eich blaen dros y bont ac ar hyd y palmant gan ddilyn y ffordd, lle byddwch yn troi i’r dde yn y pen draw wrth y gylchfan fach ac yn gadael y ffyrdd. Rydych chi nawr wedi ymuno ag ardal llwybr aml-ddefnyddiwr.
- Dilynwch y llwybr hwn wrth iddo eich arwain o gwmpas gan basio tŵr RSPB Swift a mynd ymlaen at Ganolfan Hwylio Caerdydd lle mae toiledau cyhoeddus. Yn syth ar ôl y toiledau, mae man chwarae i blant ac mae cyfle i fynd i lawr i lwybr is ar ymyl y dŵr os gallwch chi dydy hwn ddim yn gwbl hygyrch oherwydd wyneb y llwybr a’r pwyntiau mynediad i ailymuno â’r prif lwybr yn nes ymlaen.
- I gael llwybr tramwy â symudedd llawn, arhoswch ar y prif lwybr wrth iddo fynd o amgylch i’r dde tuag at yr hwyliau gwyn a’r morglawdd yn y pellter. Mae digonedd o fannau i stopio ar hyd y ffordd, lle gallwch eistedd a mwynhau’r golygfeydd sy’n edrych allan ar Aber Afon Hafren neu yn ôl am Gaerdydd. Daliwch ati i ddilyn y prif lwybr hwn i gyrraedd y morglawdd a’r ail set o doiledau cyhoeddus sydd ar y chwith y tu ôl i Ganolfan Reoli’r Morglawdd. Mae’r opsiwn yma i gerdded allan i olygfan lle ceir golygfeydd godidog ar draws afon Hafren, neu i fynd ymlaen ac ar draws Marina Penarth, ac os yw’n bosib, gallwch hefyd ddringo’r strydoedd serth i gyrraedd Penarth.
- Mae ein llwybr yn troi’n ôl wrth y morglawdd ac yn mynd yn ôl am Gaerdydd ar hyd yr un llwybr. Ar ôl cyrraedd y Senedd ac Adeilad y Pierhead, ewch i Gei'r Forforwyn lle mae digonedd o opsiynau o ran bwyd a diod. Wrth adael Cei’r Forforwyn, rydych chi nawr ar ochr arall Roald Dahl Plass gyda Chanolfan y Mileniwm ar y dde i chi. Cerddwch oddi wrth y bae a mynd yn syth yn eich blaen gan groesi'r ffordd i ailymuno â Rhodfa Lloyd George, a fydd yn mynd â chi’n ôl i orsaf drenau Bae Caerdydd.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.