
Llwybrau perffaith i deuluoedd
Mae mynd allan am dro yn ffordd wych o gadw'n heini a threulio amser gwerthfawr gyda'r teulu. Efallai eu bod yn llwybrau byrion ond maent i gyd yn cynnig mynediad i dirweddau a golygfeydd hardd iawn.
Gallwch gyrraedd pob un ohonynt ar y trên a nifer ar y bws hefyd. Cofiwch fod plant yn teithio am ddim ar ein gwasanaethau rheilffordd.
Mae'r teithiau isod yn addas ar gyfer teulu gyda phlant hŷn na saith (er na allwn warantu taith gerdded heb unrhyw ffws o gwbl gan y plant...). Os ydych chi'n gwthio bygi, gallai ein taith gerdded ac olwynio hygyrch hefyd eich ysbrydoli chi.

Trehafod i Bontypridd | 1.5 awr / 2.64 milltir
Ddim yn addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau tarmac hawdd eu defnyddio sy’n cynnig llwybr cerdded hamddenol a gwastad rhwng y gorsafoedd trenau. Cewch fwynhau hanes y Rhondda gydag ymweliad â'r Parc Treftadaeth, Parc Gwledig Barry Sidings, ac ymweliad â chanol tref Pontypridd.

Abermaw | 2.5 awr / 4.3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru dros bont Abermaw cyn dilyn yr aber draw at ben draw rheilffordd Fairbourne. Yn y fan hon, gellir defnyddio fferi fach (rhwng y Pasg a mis Hydref) i groesi’r pellter byr yn ôl i Abermaw.

Pwllheli | 1.5 awr / 2.88 milltir
Dim camfeydd
Mae'r llwybr hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau tarmac a phalmentydd yn ogystal â darn byr trwy'r twyni tywod. Mwynhewch olygfeydd ardderchog o'r harbwr a mynyddoedd Eryri.

Bae Caerdydd | 1.5 awr / 3.24 milltir
Cwbl addas i gadeiriau olwyn, sgwteri a bygis
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Bae Caerdydd tuag at y morglawdd. Mae’r llwybr yn gwbl wastad ac mae golygfeydd godidog yn edrych yn ôl am Gaerdydd, Ynys Echni, a draw i i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.

Bae Colwyn | 1.5 awr / 3 milltir
Dim camfeydd
Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’r daith yn ôl ar yr un llwybr.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.