
Archwiliwch Trehafod i Bontypridd

Mae’r llwybr hwn yn dilyn llwybrau tarmac hawdd eu defnyddio sy’n cynnig llwybr cerdded hamddenol a gwastad rhwng y gorsafoedd trenau. Cewch fwynhau hanes y Rhondda gydag ymweliad â'r Parc Treftadaeth, Parc Gwledig Barry Sidings, ac ymweliad â chanol tref Pontypridd.
Effeithir ar lwybrau gan gau llwybrau, rhwystrau a dargyfeiriadau.Os byddwch yn canfod na allwch barhau â'ch taith, ceisiwch ddod o hyd i lwybr arall neu dilynwch eich llwybr am yn ôl. Rhowch wybod i'ch awdurdod lleol am unrhyw broblemau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir pan y’i cyhoeddwyd a gall newid.
Llwybr Trehafod i Bontypridd Ramblers Cymru

- Wrth i chi adael platfform yr orsaf drenau, defnyddiwch y grisiau a’r danffordd i adael, a byddwch yn cyrraedd heol Trehafod. Ewch i'r dde yma i gerdded i fyny’r ffordd, a thros bont yr afon. Ar y pwynt hwn, os hoffech ymweld â Pharc Treftadaeth y Rhondda ewch i’r dde ac yna i’r chwith ar unwaith i ymuno â llwybr aml-ddefnyddiwr sy’n eich arwain i faes parcio'r ganolfan. Os hoffech chi barhau â’r daith gerdded, ewch i'r chwith ar deras Cadwgan ar ôl croesi’r afon. Ychydig ar hyd y llwybr, cadwch i'r chwith i ymuno â llwybr aml-ddefnyddiwr arall.
- Dilynwch y llwybr hwn am ychydig wrth iddo arwain i lawr y cwm tuag at Barc Gwledig Barry Sidings. Cofiwch fwynhau'r golygfeydd o’ch cwmpas a mwynhau canopi’r coetir, ynghyd â’r pwll lle gallwch weld bywyd gwyllt lleol. Ar ôl cyrraedd y parc gwledig, mae llwybrau eraill yn mynd â chi i’r mynyddoedd cyfagos, ynghyd â chaffi a maes chwarae antur a chaffi - mae toiledau yma sydd ar gael yn ystod oriau agor yn unig.
- Ar ôl stopio yn y Parc Gwledig, mae ein llwybr yn parhau drwy’r maes parcio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i'r dde ar y diwedd i aros ar y llwybr aml-ddefnyddiwr wrth i ni fynd am Bontypridd. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn gan gadw llygad am y rhaeadr ar y dde, ynghyd â’r clwb criced a maes chwarae arall i blant i lawr i’r chwith - mae mynediad i lawr at hwn o'r prif lwybr. Yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd stryd breswyl - Golygfa’r Eglwys.
- Ar ddiwedd y stryd hon ewch i’r chwith i lawr y rhiw, ac ar ôl i'r ffordd wyro i'r dde, cymerwch y troad cyntaf i’r dde tuag at Heol Sardis, sef cartref Rygbi Pontypridd. Mae maes chwarae arall i blant y tu allan i’r cae rygbi. Mae ein llwybr yn mynd ar hyd ochr chwith y cae rygbi heibio rhywfaint o adeiladau er mwyn mynd i lawr ac ymuno â llwybr ar lan yr afon. Dilynwch y llwybr hwn wrth iddo arwain i mewn i faes parcio’r clwb rygbi. Ewch drwy'r maes parcio i gyrraedd Heol Sardis.
- Ar y pwynt hwn, gallwch fynd yn syth i orsaf drenau Pontypridd drwy’r maes parcio mawr ar draws y ffordd - mae pont ar yr ochr bellaf yn mynd â chi i’r orsaf. Mae ein llwybr yn croesi’r ffordd ond wedyn yn mynd i lawr i’r chwith. Dilynwch y palmant i lawr ac o amgylch i’r dde gan fynd o dan bont a heibio adeilad anferthol Tŷ Sardis. Ewch yn eich blaen ar hyd y palmant lle bydd yr orsaf drenau i’w gweld ar y dde. Yma gallwch fynd i mewn i’r orsaf neu fwynhau’r hyn sydd gan ganol y dref i’w gynnig.
- Wrth y groesfan y tu allan i’r orsaf, ewch dros y ffordd i gyrraedd canol tref Pontypridd. Rydych chi nawr ar y Stryd Fawr gyda phrif ardal siopa’r dref o’ch cwmpas. Mae yma hefyd farchnad dan do a llawer o gaffis i ymweld â nhw. Hefyd, i lawr ar y dde, mae yna bont sy’n mynd â chi draw i Barc Ynysangharad lle mae mwy o fannau gwyrdd i’w harchwilio ynghyd â safle hanesyddol Lido Cenedlaethol Cymru.
Edrychwch ar y llwybr ar Go Jauntly Lawrlwythwch GPX
Edrychwch a lawrlwythwch y map PDF llawn Rhagor o lwybrau
Cyrraedd
Mae ein rhwydwaith trên yn estyn ar draws hyd a lled Cymru, gan stopio mewn sawl man er mwyn ichi allu dod oddi ar y trên a dechrau neu barhau â’ch antur ar droed. Mae ein Tocynnau teithio diderfyn yn ffordd wych o archwilio’n rhwydwaith ac maent yn cynnwys rhai bysiau o ddarparwyr detholedig.
Canfyddwch fwy ar ein rhwydwaith
Mae yna lawer i’w weld ac i’w wneud ar draws ein rhwydwaith a gallwch gael mynediad at ostyngiadau arbennig gyda’ch tocyn TrC.