Dyma frên eich trên
Mae’n helpu â’ch teithiau, heb achosi pen tost. P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn ymweld â ffrindiau neu'n archwilio lleoedd newydd, ap TrC yw eich cydymaith teithio clyfar.
Lawrlwythwch ap TrC heddiw
Talu wrth fynd - yn fwy clyfar gyda brên eich trên
Mae taliadau digyswllt talu wrth fynd eisoes yn gwneud pob taith ar y trên yn haws ar wasanaethau TrC a CrossCountry ar draws ein rhwydwaith Metro De Cymru.
Wrth gofrestru eich dull talu ar ap TrC, gallwch fwynhau’r manteision canlynol:
- olrhain eich teithiau a hanes eich taliadau mewn un lle.
- lawrlwytho derbynneb pob taith gydag ychydig o dapiau.
- derbyn hysbysiad os ydych chi’n anghofio tapio allan, er mwyn osgoi costau ychwanegol.
- cwblhau eich teithiau'n awtomatig yn seiliedig ar eich patrwm teithio.
Rhagor o wybodaeth am y dull talu wrth fynd.
Newid eich tocyn am ddim
Os yw’ch cynlluniau teithio’n newid ar ôl i chi brynu tocyn Advance, gallwch ddefnyddio ein ap i wneud newidiadau i amser a dyddiad eich archeb, hyd at 18.00 ar y diwrnod cyn eich taith – yn wahanol i apiau eraill, wnawn ni ddim codi tâl arnoch am hyn
Ewch i trc.cymru/ad-daliadau a dewis “Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan” am ragor o wybodaeth.
Arbed arian
- Dim ffi archebu - yn wahanol i rai apiau eraill, wnawn ni ddim codi ffi archebu.
- Arbedwch hyd at 50% oddi ar deithiau pellter hir gyda’n tocynnau Advance.
- Gallwch deithio’n ddiderfyn am un neu bedwar diwrnod mewn ardaloedd penodol ar draws ein rhwydwaith â’n tocynnau Crwydro Cymru.
Gwasgaru’r gost
Os yw’ch tocynnau’n costio £30 neu fwy, gallwch helpu i reoli’r gost drwy dalu mewn rhandaliadau gyda ‘Pay in 3’ gan PayPal, sydd ar gael ar yr ap neu’r wefan.
Dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch chi'n cyrraedd y sgrin dalu.

