Os ydych chi’n teithio o Lerpwl i Gaerdydd, y ffordd hawsaf a mwyaf cyfforddus yw mynd ar y trên.

 

Faint o amser mae’r trên yn ei gymryd o Lerpwl i Gaerdydd?

Mae’r daith yn cymryd 3 awr a 40 munud, er y gall rhai llwybrau gymryd ychydig mwy o amser. Mae trenau rheolaidd rhwng y ddwy ddinas boblogaidd hyn.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Lerpwl i Gaerdydd?

Mae gan Gaerdydd, prifddinas Cymru, ddiwylliant ac awyrgylch cosmopolitan bywiog, sy’n falch o’i threftadaeth gyfoethog ac yn edrych tua’r dyfodol. Mae atyniadau i’r teulu cyfan ar gael yma.

Am ychydig o hwyl gyda’r teulu, beth am fynd draw i Techniquest ym Mae Caerdydd. Yno, mae ychydig o wyddoniaeth, ffuglen wyddonol yn ogystal â hanes Cymru. Mae’n cynnig dysgu rhyngweithiol gydag arbrofion cyffrous sy’n defnyddio technoleg ymgolli. Bydd plant o bob oedran wrth eu bodd yn dysgu rhywbeth newydd ac yn cael eu hysbrydoli i ddal ati i archwilio.

 

Ar y trên, gallwch fwynhau ein Wi-Fi am ddim a chael sgwrs â ffrindiau, neu wylio penodau diweddaraf eich hoff gyfres teledu. Byddwch yn cyrraedd Caerdydd yn ffres ac yn fywiog ac yn cael cyfle i gynllunio eich taith nesaf i brifddinas Cymru wrth ymlacio ar y ffordd adref. Beth am lwytho’r ap hawdd ei ddefnyddio i lawr er mwyn cael y wybodaeth fyw ddiweddaraf am deithio, prynu Tocynnau Unrhyw Bryd neu ddarganfod ein gostyngiadau i bobl dros 50 oed  - gan adael mwy o arian gwario yn eich poced?