Mae'n hawdd teithio i Aberystwyth ar y trên ar gyfer gwaith neu bleser.
Mae'r gwasanaethau'n rhedeg trwy gydol y dydd. Mae ein cynigion arbed arian, gan gynnwys ein tocynnau Diwrnod Unrhyw Adeg yn gyfleus ac yn fforddiadwy, ac yn golygu y bydd mwy o arian gennych i’w wario ar eich diwrnod yn Aberystwyth.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaerfyrddin i Aberystwyth?
Mae'n cymryd tua 1 awr 45 munud i deithio o Gaerfyrddin i Aberystwyth. Mae ein llwybr golygfaol yn deithio dros tua 60 milltir, gan gynnig taith gyfforddus ac effeithlon.
Pam teithio o Gaerfyrddin i Aberystwyth?
Mae Rheilffordd Clogwyn Aberystwyth yn cludo ymwelwyr i fyny ochr serth Bryn y Cyfansoddiad, sydd â golygfa hyfryd o'r dref gyfan o'r copa. Mae'n anodd anwybyddu adfeilion trawiadol Castell Aberystwyth, y gaer fawreddog a adeiladwyd gan y Brenin Edward I ar ddiwedd y 13eg ganrif. Mae'r safle rhestredig Gradd I hwn yn cydblethu â phensaernïaeth fwy cyfoes Aberystwyth, a gall fod yn rhyfedd gweld, ar wasgar ledled y dref, y blociau enfawr o gerrig a oedd unwaith yn rhan o'r gaer hynafol hon.
Mae gan Aberystwyth lawer i'w gynnig o ran diwylliant a'r celfyddydau, fodd bynnag, un o atyniadau bywiog y dref yw Canolfan y Celfyddydau. Gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, mae'n arddangos talentau gwadd ac artistiaid lleol, o arlunwyr a dawnswyr i gerddorion a digrifwyr. Mae rhywbeth at ddant pawb.
I'r rheini sy'n hoff iawn o antur, mae AberAdventures yn cynnig ystod gyffrous o chwaraeon dŵr, gan gynnwys syrffio, caiacio a chorfffyrddio - perffaith ar gyfer plant mawr a bach sy'n mwynhau hwyl a sbri yn y môr.
Wedi hynny, beth am ymlacio yn un o'r caffis a bwytai niferus o amgylch Marine Place. Mwynhewch y golygfeydd, wrth geisio penderfynu ar eich antur nesaf - efallai taith o amgylch un o siopau niferus y dref. O siopau adnabyddus y stryd fawr i fwtîcs a marchnadoedd lleol sy'n cynnwys anrhegion a thrysorau wedi'u gwneud â llaw - cofiwch brynu bara bach cartref blasus neu fudge blasus ar gyfer y daith adref.
Teithiwch i Aberystwyth a phrynu tocyn trên o Gaerfyrddin gyda'n ap ffôn clyfar. Gallwch weld yr holl amserlenni a'n bargeinion diweddaraf, beth sydd well. Mae gan ein trenau hefyd Wi-Fi am ddim, sy'n eich galluogi i ddal i fyny gyda'r cyfryngau cymdeithasol, neu, gwaith, os oes raid wrth gwrs! Ewch ati i drefnu taith i'r dref arbennig hon heddiw.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-