Ydych chi wedi trefnu taith fferi i Iwerddon?
Gall ein trenau fynd â chi i borthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun, felly gallwch ymlacio ar y daith i’r porthladd drwy neidio ar un o’n trenau.
Porthladd Caergybi
Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol i Gaergybi o orsaf Caerdydd Canolog a Chaer bob awr. Mae ardal cyrraedd/gadael Porthladd Caergybi gyferbyn â gorsaf Rheilffordd Caergybi.
Terfynfa Fferïau Doc Penfro
Mae trenau’n rhedeg i Ddoc Penfro o Abertawe a Chaerfyrddin. Mae’r orsaf drenau tua milltir i ffwrdd o Borthladd Penfro ac mae modd mynd yno ar droed neu mewn tacsi.
Porthladd Fferi Abergwaun
Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol i Harbwr Abergwaun o orsaf Caerdydd Canolog, Abertawe a Manceinion Piccadilly. Mae ardal cyrraedd/gadael Fferi Harbwr Abergwaun wrth ymyl gorsaf reilffordd Harbwr Abergwaun.
Gallwch archebu eich teithiau trên a fferi gydag un tocyn drwy ddefnyddio RheilHwylio i leddfu rhywfaint ar y straen.