Submitted by admin on

Mae gorsaf Caerdydd Canolog wedi ei lleoli yn y Sgwâr Canolog yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, sy’n hawdd i’w weld diolch i’w faint godidog a’i leoliad yng nghanol y ddinas hanesyddol hon. Darganfyddwch bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd a phrynwch eich tocynnau Advance , heb unrhyw ffioedd archebu, heddiw. Ydych chi eisiau gwybod pa mor brysur mae eich trên i Gaerdydd Canolog neu oddi yno yn debygol o fod? Defnyddiwch ein gwiriwr capasiti defnyddiol.

Neges yr orsaf

The lifts are out of order between Platform 1 & 2 West End and Subway at Cardiff Central station.

The lifts are out of order between platform 3 & 4 East end and the subway at Cardiff Central station.

Station facilities

  • Parcio
  • Siopau
  • Mynediad di-gam
  • Peiriant tocynnau
  • Swyddfa docynnau
  • Toiledau
  • Wifi

 

 
  • Gwybodaeth cyffredinol am wasanaethau
    • Lefel Staffio
    • Teledu Cylch Cyfyng
    • Gwybodaeth Ar Gael Gan Staff
    • Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid
    • Mannau Cymorth i Gwsmeriaid
  • Prynu a chasglu tocynau
    • Swyddfa Docynnau
    • Casglu Tocynnau a Brynwyd Ymlaen Llaw
    • Peiriant Tocynnau
    • Cyhoeddi Cerdyn Oyster
    • Defnyddio Cerdyn Oyster
    • Dangos Meysydd Cerdyn Oyster Bob Tro
    • Cyhoeddi Cerdyn Clyfar
    • Ychwanegiad Cerdyn Clyfar
    • Dilysu Cerdyn Clyfar
    • Tocynnau Cosb
  • Holl gyfleuterau’r orsaf
    • Lolfa Dosbarth Cyntaf
    • Ardal gyda Seddi
    • Ystafell Aros
    • Bwffe yn yr Orsaf
    • Toiledau
    • Ystafell Newid Babanod
    • Ffonau
    • Wi Fi
    • Blwch Post
    • Peiriant ATM
    • Siopau
  • Hygyrchedd a mynediad symudedd
    • Llinell Gymorth
    • Cymorth ar gael gan Staff
    • Dolen Sain
    • Peiriannau Tocynnau Hygyrch
    • Cownter Is yn y Swyddfa Docynnau
    • Ramp i Fynd ar y Trên
    • Tacsis Hygyrch
    • Ffonau Cyhoeddus Hygyrch
    • Toiledau’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol
    • Mynediad Heb Risiau
    • Gatiau Tocynnau
    • Man Gollwng Teithwyr â Nam Symudedd
    • Cadeiriau Olwyn Ar Gael
    • Teithio â Chymorth
  • Gwybodaeth parcio
    • Mannau Storio Beiciau
    • Maes Parcio
    • Gwasanaethau Bws yn lle’r Trenau
    • Safle Tacsis
    • Teithio Ymlaen
    • Maes Awyr
    • Llogi Beiciau
  • Gwybodaeth i gwsmeriad
    • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
    • Cadw Bagiau
    • Eiddo Coll
Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Hanes Caerdydd Canolog

Fel un o’r prif orsafoedd ar Brif Reilffordd De Cymru, mae gan orsaf Caerdydd Canolog gyfrifoldeb mawr dros sicrhau bod pobl ledled Cymru a’r DU yn cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fod. Mae ei neuaddau mawreddog gyda phensaernïaeth Art Deco gogoneddus wir yn adlewyrchu oes aur teithio ar y trên.

Arferai safle Caerdydd Canolog fod yn rhan o orlifdir yr Afon Taf. Y gŵr mawr ei hun, Isambard Kingdom Brunel, oedd yn gyfrifol am gynnig ateb ymarferol. Ei syniad oedd ailgyfeirio’r afon, gan greu lleoliad diogel a sefydlog ar gyfer yr orsaf. Yn 1850, agorwyd yr orsaf wreiddiol ar gyfer busnes. Yn ystod y blynyddoedd dilynol cafodd llawer o waith ailadeiladu ei wneud, yn ogystal ag ychwanegu adeiladau at y safle gwreiddiol. Ymgorfforwyd yr arddull Art Deco hudolus ar ddechrau’r 1930au. Heddiw, y gorsaf restredig Gradd II yw’r prysuraf yng Nghymru.

Mae’n daith gerdded fer o ddeg munud i gartref rygbi Cymru - Stadiwm Principality, Canolfan y Mileniwm, a phopeth sydd gan y ddinas i'w gynnig. Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth? Tarwch olwg ar y rhestr hon o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd.

 

Ewch ar daith rithiol o amgylch ein gorsafoedd

Taith rithiol o orsaf Caerdydd Canolog

Gallwch weld holl deithiau 3D gorsafoedd TrC yma a dysgu sut maen nhw gweithio.

 

  • Faint o amser mae’n ei gymryd i fynd o orsaf Caerdydd Canolog i Faes Awyr Caerdydd?

    • I deithio o orsaf Caerdydd Canolog i faes awyr Caerdydd, mae angen i chi neidio ar y trên i orsaf Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y Rhws, ac o’r fan honno, dal y gwasanaeth bws gwennol cyfleus i’r maes awyr.
  • Faint o amser mae’n ei gymryd i gerdded o orsaf Caerdydd Canolog i ganol dinas Caerdydd?

    • Mae’r daith i ganol dinas Caerdydd, drwy Heol Eglwys Fair, yn cymryd pum munud.
  • Pa gyfleusterau parcio ceir sydd ar gael yng ngorsaf Caerdydd Canolog?

    • Mae 402 o lefydd yn y maes parcio 24 awr, gan gynnwys llefydd Bathodyn Glas.
  • Pa gyfleusterau sydd ar gael i storio beiciau yng ngorsaf Caerdydd Canolog?

    • Gyda 90 lle i feiciau ar gael, gan gynnwys lle storio cysgodol, mae digon o le, ac mae teledu cylch cyfyng yn edrych ar bopeth.
  • Pa gyfleusterau eraill sydd ar gael yng ngorsaf Caerdydd Canolog?

    • Toiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid babanod
    • Bwffe yn yr orsaf
    • Siopau
    • Ffonau arian a chardiau
    • Peiriant ATM
    • Wi-Fi
    • Lolfa dosbarth cyntaf
    • Mynediad i bobl anabl - does dim grisiau yn yr orsaf, ac mae rampiau a system dolen sain ar gael
  • Pa gyrchfannau poblogaidd y gallwch eu cyrraedd o orsaf Caerdydd Canolog?

  • Oeddech chi’n gwybod?
    Tocynnau Multiflex
    Yw’r tocyn Unffordd rhataf ar gyfer cannoedd o deithiau rheolaidd.
    Dim ond ar gael ar ein Ap
  • Oeddech chi’n gwybod?
    Teithiwch yn Saffach
    Gallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.
    Gwirio capasiti