Un tocyn rhwydd i deithio’n rhatach ac yn gyflymach

Arbedwch amser ac arian* ar deithiau rhwng De Cymru ac Aberystwyth gyda’n tocyn trên a bws T1 TrawsCymru cyfunedig.

Yn hytrach na gorfod defnyddio gwahanol apiau, gwefannau a chwmnïau i brynu eich tocynnau trên a bws ar wahân, gallwch nawr brynu un tocyn ar gyfer eich taith gyfan ar ein trenau ni ac ar fysiau TrawsCymru T1.

Os ydych yn teithio ar ein trenau i gyrchfannau yn Ne Cymru, bydd angen ichi ddod oddi ar y trên yng Nghaerfyrddin a newid i fws T1 TrawsCymru er mwyn parhau â’ch taith. Mae safle bws y gwasanaeth T1 wedi’i leoli cyferbyn ag allanfa’r orsaf drên. Os ydych yn teithio o Aberystwyth, Llanbed neu Aberaeron, byddwch yn dechrau’ch taith ar wasanaeth TrawsCymru ac yn newid i drên yng Nghaerfyrddin er mwyn parhau â’ch taith.

*O'i gymharu â rhai teithiau rheilffordd yn unig. Yn seiliedig ar gymharu rhai teithiau trên ar hyd llwybr cyfunol a theithiau trên yn unig, Gorffennaf 2023.

 

O ddefnyddior ddwy ffordd i deithio, gallwch arbed amser ac arian.

Er enghraifft

Icon of a ticket

Abertawe - Aberystwyth

Taith o Abertawe i Aberystwyth gyda thocyn cyfun

 

  • O £15.30 am docyn Sengl Unrhyw Bryd
  • mae'n 2 awr 7 munud yn gyflymach

 

Er enghraifft

Icon of a ticket

Pen-y-bont ar Ogwr - Aberystwyth

Taith o Ben-y-bont ar Ogwr i Aberystwyth gyda thocyn cyfunol

 

  • O £10.30 am docyn Sengl Advance
  • mae'n 30 munud yn gyflymach
Prisiau tocynnau'n ddilys ar 21/07/2023 ymlaen. Costau ac arbedion amser yn seiliedig ar gymharu rhai teithiau ar hyd y llwybr cyfunol yn erbyn teithiau trên yn unig, o'i gymharu â thaith trên sengl safonol drwy Amwythig, Gorffennaf 2023.

Map o rwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gydag allwedd

 

 

Ble allaf brynu tocyn cyfunedig?

Gallwch brynu tocynnau cyfunedig neu docynnau trên ar ein gwefan, ein Ap trenau, neu mewn unrhyw un o’n Gorsafoedd.

 

Gwasanaethau bws TrawsCymru 

Gallwch brynu tocynnau yn ôl ac ymlaen o Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan ar ein gwefan fel rhan o'ch taith gyfunol. Cofiwch fod arosfannau ychwanegol i’r rhain ar wasanaethau bws TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, bydd eich gyrrwr bws yn gallu helpu neu gallwch fynd i wefan TrawsCymru i gael rhagor o wybodaeth. Cofiwch nad oes toiledau ar wasanaethau T1 TrawsCymru. 

Mae croeso i’r cwsmeriaid sydd am ymuno â ni yn Aberaeron fwynhau’r cyfleusterau aros yn ein partner lletygarwch Ambassador Café.