A oes chwant bwyd arnoch? Dyma sut i archebu

Fork and knifeMynnwch fyrbryd neu ddiod o'r troli: Rhowch wybod i'ch gwesteiwr beth rydych chi am ei fwyta pan ddaw'r troli heibio a thalwch â cherdyn.
PhoneArchebwch bryd Dosbarth Safonol (Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf yn unig): Gofynnwch i'ch gwesteiwr beth sydd ar gael neu sganiwch y cod QR ar y sedd neu'r bwrdd i weld y fwydlen ac archebwch ar-lein. Rhowch wybod i ni beth ydych chi’n dymuno ei brynu a thalwch gyda cherdyn.
1stArchebwch bryd o fwyd Dosbarth Cyntaf (Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf yn unig): Gweler pa ffefrynnau tymhorol sy’n eich temtio chi o'r fwydlen bwyta cain ar eich bwrdd. A fyddwch yn dewis dau neu dri chwrs? Rhowch wybod i'ch gwesteiwr a thalwch â cherdyn.

Cwestiynau Cyffredin am fwyd a diod

Pa fwyd a diod sydd ar gael ar y trên?

O fwyd tymhorol cain yn yr ardal Dosbarth Cyntaf i frecwast llawn wedi’i goginio’n ffres, opsiynau ysgafnach neu fyrbrydau blasus o'r troli. Mae gennym ni amrywiaeth flasus o fwyd a diod i chi ei mwynhau.

Pa wasanaethau sydd â bwyd a diod?

Ar hyn o bryd, dim ond ar ein Gwasanaethau o’r Radd Flaenaf rhwng Caerdydd a Chaergybi a rhwng Caerdydd a Manceinion y mae ein gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf a'n bar bwyd ar gael.

Fel arfer, byddwn yn darparu gwasanaeth troli gydag amrywiaeth o fyrbrydau blasus a diodydd poeth ac oer ar y llwybrau canlynol:
 

  • Caerfyrddin <> Manceinion Piccadilly
  • Caerdydd Canolog <> Caergybi
  • Aberystwyth <> Birmingham Rhyngwladol
  • Cyffordd Llandudno <> Maes Awyr Manceinion
  • Caergybi <> Birmingham Rhyngwladol
     

Mae ein holl wasanaethau bwyd a diod ar y trên yn amodol ar faint sydd ar gael.

A allaf ddod â’m bwyd a'm diod fy hun ar y trên?

Gallwch, gallwch ddod â'ch bwyd a'ch diod eich hun ar y trên.

A oes opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol?

Oes, mae gennym ni opsiynau heb alergenau, heb glwten, fegan a llysieuol nad ydynt yn cyfaddawdu ar flas. Gofynnwch i'ch gwesteiwr ar y trên roi gwybod i chi beth sydd ar gael.

A oes bwyd a diod i blant?

Er nad oes gennym fwydlen benodol i blant, mae gan ein gwasanaeth troli a'n bar bwyd fyrbrydau a diodydd sy'n addas i blant. Gofynnwch i'ch gwesteiwr ar y trên roi gwybod i chi beth sydd ar gael.

Rydym yn diweddaru ein bwydlen gyda'r tymhorau i gadw pethau'n ffres. Efallai na fydd rhai eitemau ar gael bob amser.