Darparwyd y llun drwy garedigrwydd Michael Meilton

 

Byddwch yn talu am eich holl deithiau ar y bws a’r trên gyda’i gilydd wrth brynu PlusBus gyda’ch tocyn trên

 

Beth yw PlusBus?

Mae’n bàs bws am bris gostyngedig (fel cerdyn rheilffordd) er mwyn i chi allu teithio faint fynnwch chi ar y bws o gwmpas holl ardal y dref neu’r ddinas lle mae’r trên wedi dechrau neu gyrraedd. Prynwch PlusBus gyda’ch tocyn trên. Cewch deithio ar y bws ar ddechrau neu ar ddiwedd eich taith ar y trên, neu ar bob pen o’r daith. Byddwch yn talu am eich holl deithiau ar y bws a’r trên gyda’i gilydd, a hynny yn yr orsaf, ar y ffôn neu ar-lein. Mae PlusBus ar gael mewn 26 o drefi a dinasoedd ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru (sydd wedi’u rhestru isod):

 

Sut mae’n gweithio?

Ar gyfer pob tref neu ddinas, mae parth sy’n cynnwys holl ardal y dref neu’r ddinas (er mwyn prynu PlusBus, rhaid i’ch taith ar y trên ddechrau neu orffen y tu allan i'r parth lle cewch deithio ar y bws). Gyda eich tocyn PlusBus, gallwch deithio faint fynnwch chi ar yr holl fysiau sy’n rhan o’r cynllun, a hynny unrhyw le yn y parth.

 

Gwerth Gwych

Mae prisiau tocynnau PlusBus yn dechrau ar £2.50 y dydd. Gallwch chi gael traean oddi ar brisiau tocyn diwrnod PlusBus gyda’ch cerdyn rheilffordd (bydd y cyfyngiadau arferol yn ystod oriau brig yn berthnasol). Bydd plant (o dan 16 oed) yn talu hanner pris y tocynnau diwrnod PlusBus i oedolion.

 

Hawdd eu prynu

Gofynnwch am PlusBus wrth brynu eich tocyn trên. Gallwch chi brynu PlusBus:

  • ym mhob swyddfa docynnau mewn gorsafoedd
  • Ar-lein - pan fyddwch chi’n prynu oddi ar ein gwefan neu ap, byddwch chi bob amser yn cael cynnig PlusBus fel dewis pan fydd ar gael

Mae modd prynu PlusBus gyda’r mathau o docynnau “prynu ar y diwrnod” ac “advance”:

  • unffordd
  • dwyffordd mewn diwrnod
  • dwyffordd dros gyfnod (bydd angen i chi nodi dyddiad eich siwrne ddychwelyd)
  • tocynnau tymor (am gyfnodau penodol: 7-diwrnod, 1-mis, 3-mis, blwyddyn).

Gallwch chi arbed arian drwy ddefnyddio PlusBus ac mae’n fwy cyfleus na phrynu tocynnau ar wahân. Gallwch chi hefyd dalu gydag arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd ar y diwrnod.

 

I gael rhagor o wybodaeth

Ewch i: www.plusbus.info

I weld prisiau tocynnau PlusBus neu i weld mapiau parth sy’n dangos lle gallwch chi deithio ym mhob tref, ynghyd â manylion y cwmnïau bysiau sy'n rhan o’r cynllun,

Ewch i: www.traveline.info neu ffoniwch ‘traveline’ ar 0871 200 22 33

I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd a llwybrau bysiau, (mae galwadau o linellau tir y DU yn costio 12 ceiniog y funud).

 

Mae gweithredwyr bysiau yn aml yn darparu gwasanaethau sy’n cysylltu â’n gorsafoedd trenau i’ch helpu i barhau â’ch taith

Isod, mae rhestr o’r gweithredwyr bysiau ar ein rhwydwaith