Sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn

Fe gewch chi ddod â’ch sgwter symudedd ar ein trenau os yw’n cydymffurfio â’n gofynion maint a phwysau.

Mae hefyd yn bwysig cadarnhau bod y gorsafoedd y byddwch chi’n eu defnyddio yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Gallwch edrych ar ein gwybodaeth am hygyrchedd gorsafoedd neu ffonio ein tîm Cymorth wrth Deithio am gyngor.

 

Fel y rhan fwyaf o gwmnïau trenau, gallwn gario cadeiriau olwyn a sgwteri sydd:

  • yn mesur hyd at 700mm x 1200mm (yn cynnwys y silff traed);
  • â radiws troi o 900mm; ac
  • ni chaiff uchafswm pwysau’r gadair olwyn a’r teithiwr gyda’i gilydd fod yn fwy na 300kg.

Gwiriwch ddimensiynau eich cadair olwyn neu sgwter cyn teithio. Gallwch hefyd ddarllen ein canllawiau ar gyfer sgwteri symudedd.