Teithio am ddim ac am bris is i bobl dros 60 oed Gwnewch gais am gerdyn teithio rhatach i gael teithio am ddim ar fysiau ac ar drenau ar hyd rhai llwybrau. Gallwch hefyd gael tocynnau trên am brisiau is. Teithio hygyrch Croeso i Glwb 60 Tocynnau Teithio Rhatach Cerdyn Rheilffordd Pobl Hŷn Gyda Cherdyn Rheilffordd Pobl Hŷn, gallwch gael 1/3 i ffwrdd oddi ar brisiau tocynnau trên i deithio ledled Prydain. Ewch i senior-railcard.co.uk i weld sut gallwch chi wneud cais a faint gallech chi ei arbed. Gwneud cais am gerdyn rheilffordd pobl hŷn Cerdyn Teithio Rhatach Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi’n 60 oed o leiaf a bod eich prif gartref yng Nghymru. Gwnewch gais am gerdyn i bobl 60 oed a hŷn. Tocyn bws i bobl anabl Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych chi'n berson anabl cymwys a bod eich prif gartref yng Nghymru. Gwnewch gais am gerdyn i rywun anabl.