Atyniadau

Chester Zoe tiger

Sŵ Caer

Cynnig: Prynu un tocyn sw a chael yr ail hanner pris.

Prynwch docyn i sw Caer a dangoswch dystiolaeth pan fyddwch yn cyrraedd i brofi eich bod wedi teithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gael eich ail docyn hanner pris.

Cymerwch fws X1 o du allan orsaf drenau Caer a chyrraedd y sw mewn dim ond 15 munud.

Dysgwch fwy

  • Telerau ac amodau
      • Un tocyn hanner pris am bob tocyn pris llawn a brynir. Er enghraifft, gall 2 oedolyn â 2 blentyn (1-17 oed) gael tocyn am hanner pris.

      • Mynediad am ddim i fabanod o dan 12 mis bob amser.

      • Rhaid bod plant o dan 14 oed yng nghwmni oedolyn.

      • Rhaid dangos tocyn trên dilys ar gyfer y diwrnod hwnnw rhwng yr orsaf gyrchfan yng Nghymru a Chaer ar gyfer pob aelod o'r grŵp sy’n ymweld â’r sw.

      • Nid oes angen archebu ymlaen llaw, mae'r cynnig hwn ar gael ar y diwrnod a gallwch gasglu eich tocynnau o’r swyddfa docynnau ger gatiau'r fynedfa.

      • Nid yw’r cynnig yn cynnwys tocynnau am ddim i ofalwyr ac mae’n ddilys i oedolion neu blant sydd wedi talu am docyn yn unig.

      • Mae gan Sw Caer yr hawl i dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.

TfW train passing infront of a Cadw castle

Safleoedd Hanesyddol Cadw

Cynnig: 2 docyn mynediad am bris 1 gyda'ch tocyn trên.

Gyda thocyn trên dilys ar yr un diwrnod, gallwch gael dau docyn mynediad am bris un pan fyddwch yn ymweld â rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.

Dysgwch fwy > 2 docyn mynediad am bris 1 i Dirnodau Hanesyddol.

Meerkat

Sŵ Drofannol Plantasia, Abertawe

Cynnig: 20% oddi ar bris tocyn mynediad.

Archebwch ymlaen llaw gan ddefnyddio'r cod “DAYSOUT20” wrth y ddesg dalu. Dangoswch eich tocyn trên wrth gyrraedd.

Chester Catherdral

Eglwys Gadeiriol Caer

Cynnig: 2 docyn mynediad am bris 1 ar gyfer taith Dywys Eglwys Gadeiriol Caer.

Dangoswch eich tocyn trên ar y diwrnod.

Dysgu mwy > Teithiau tywys - Eglwys Gadeiriol Caer.

Foggy walk through the park

Teithiau Ysbryd Caer

Cynnig: 2 berson yn teithio gyda'i gilydd £15, teulu o 4 £25.

Cynnig ar gael ar y diwrnod yn unig.

Dysgu mwy > Taith Ysbryd Caer.

Family inside of Shrewsbury Prison

Carchar Amwythig

Cynnig: 20% oddi ar deithiau Hunan-dywys neu Deithiau Tywys.

Archebwch docyn trên ar yr un diwrnod wrth gyrraedd.

Dysgu mwy > Carchar Amwythig.

  • Telerau ac amodau
      • Bydd ymwelwyr yn derbyn 20% oddi ar bris tocyn wrth ddangos tocyn trên TrC yr un diwrnod yng nghanolfan ymwelwyr Carchar Amwythig.

      • Rhaid i'r tocyn trên fod yn ddilys ar gyfer teithio ar yr un diwrnod.

      • Dim ond ar y diwrnod yng nghanolfan ymwelwyr Carchar Amwythig y bydd y disgownt yn cael ei brosesu ac ni fydd yn ddilys ar-lein.

      • Caiff ymwelwyr ostyngiad o 20% oddi ar bris tocyn teithiau hunan-dywys a theithiau tywys yn unig.

      • Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer tocynnau plant ac oedolion.

      • Ni ellir defnyddio'r gostyngiad hwn ar y cyd ag unrhyw gynigion neu ostyngiadau eraill.

      • Caiff teithiau tywys eu trefnu ar y diwrnod yn amodol ar argaeledd.

Dros 18 oed yn unig

Close-up photography of silver keg lot

Bragdy Ludlow

Cynnig: 20% oddi ar docyn taith o'r Bragdy. Nodwch y cod ‘RAIL20’ wrth archebu.

Archebwch docyn trên ar yr un diwrnod wrth gyrraedd.

 

I gael rhagor o ostyngiadau atyniad wrth deithio ar y rheilffordd, darllenwch ganllaw diwrnodau allan National Rail.