Manceinion - Crewe - Birmingham - Aberystwyth - Caergybi

Talu llai am deithio’n bellach

Teithio’n bell ar y trên? Mae tocynnau Advance fel arfer yn cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau rheilffordd hirach. Felly, p’un a ydych chi’n teithio i Fanceinion i gwrdd â ffrindiau, mynd i Ynys Môn i ymlacio neu’n mynd i siopa yn Birmingham, gallwch fwynhau am bris llai, drwy brynu o flaen llaw.

Efallai y bydd rhai tocynnau Advance ar gael ar eich diwrnod teithio, ond rydym yn argymell eich bod yn prynu eich un chi hyd at 6 wythnos ymlaen llaw, gan mai nifer cyfyngedig o docynnau Advance sydd ar gael ar gyfer pob taith. Felly, manteisiwch ar ein prisau gorau drwy brynu’ch tocyn yn gynnar. 

Mae prynu tocyn Advance yn cadw lle i chi ar y trên o’ch dewis, sy’n golygu mai dim ond ar y gwasanaeth rydych chi wedi’i archebu y gallwch chi deithio. Os oes angen mwy o hyblygrwydd arnoch o ran eich cynlluniau teithio, rydym yn argymell ein tocynnau Unrhyw Amser.

 

Ble i brynu tocyn Advance

Osgowch dalu unrhyw ffioedd bwcio ac archebwch eich tocynnau gyda ni’n uniongyrchol pan eich bod yn eu prynu ar ap TrC, y wefan neu o swyddfa docynnau mewn un o’m gorsafoedd.

Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi ledaenu taliadau dros 3 rhandaliad gyda Paypal Pay in 3 os ydych chi'n gwario dros £30. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar y sgrin talu.

Prynwch eich tocyn trên Advance ar ein ap, a mwynhewch deithiau digyswllt pan eich bod yn cofrestru cyfrif. Mae ragor o wybodaeth am ap TrC yma.

 

  • A oes tocynnau Advance ar gael ar gyfer gwasanaethau Dosbarth Cyntaf?
    • Oes. Mae tocynnau Advance ar gael ar wasanaethau Safonol a Dosbarth Cyntaf.

  • Pam mai dim ond ar gyfer teithiau un ffordd y mae tocynnau Advance?
    • Tocynnau trên un ffordd yw tocynnau Advance, sy’n golygu, yn wahanol i docynnau dychwelyd, mae gennych yr hyblygrwydd i ddewis mannau cychwyn a gorffen gwahanol i gyd-fynd â’ch anghenion.

  • A yw’n bosibl defnyddio fy Ngherdyn Rheilffordd gyda thocynnau Advance?
    • Ydy. Gallwch ychwanegu gostyngiadau Cerdyn Rheilffordd at docynnau Advance i arbed hyd yn oed mwy.

  • A yw’n bosibl uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf?
    • Ydy. Gallwch uwchraddio o docyn Safonol i docyn Dosbarth Cyntaf ar ein gwasanaethau, lle bo’n berthnasol. Mae hyn yn bosib gyda’n tocynnau Safonol i gyd gan gynnwys tocynnau unrhyw bryd a thocynnau unffordd Advance, tocynnau dwyffordd, tocynnau tymhorol, a thocynnau Rover a Ranger. Gadewch i’r goruchwylwr wybod os hoffech uwchraddio a byddant yn gwirio p’un a oes lle i chi ar y trên y diwrnod hwnnw.

  • Sut i newid tocyn Advance
    • Os oes angen i chi newid y diwrnod neu’r amser rydych chi’n teithio, gallwch chi newid eich tocyn hyd at 18:00 ar y diwrnod cyn teithio.

    • Bydd y broses y bydd angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar ble wnaethoch chi brynu eich tocyn a pha opsiwn danfon roeddech chi wedi’i ddewis, darganfod mwy.

  • A allaf gael ad-daliad ar Docyn Advance?
    • Ni allwch gael ad-daliad am docynnau Advance oni bai eich bod wedi penderfynu peidio â theithio am fod eich trên wedi’i ganslo neu’n hwyr.

    • Os wnaethoch chi brynu tocyn Advance ar ein ap neu wefan, ni chodir ffi arnoch ar hyn o bryd am newid eich taith o dan ein cynllun Archebu gyda hyder. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy os oes gwahaniaeth pris rhwng eich tocyn presennol a’r tocyn newydd.

 

Telerau ac amodau

Ar gyfer cwsmeriaid sy’n prynu tocynnau Advance ar ein ap neu wefan, nid oes ffi am newid taith, cyn belled â bod gennych gyfrif ar-lein. Fel arfer ni fydd modd ad-dalu tocynnau Advance a gallech orfod talu ffi o £10 am newid siwrnai pan fydd hyn yn cael ei drefnu yn swyddfa docynnau gorsaf. Mae rhagor o wybodaeth am docynnau Advance, gan gynnwys y telerau a’r amodau, ar wefan National Rail.

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2022 a 31/12/2022 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 51%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae amodau teithio National Rail yn berthnasol.