Gallwch arbed hyd at 50% ar deithiau rhwng Aberystwyth and Birmingham

O grwydro ar lan y môr i siopa di-stop, gyda threnau uniongyrchol yn rhedeg bob awr rhwng Aberystwyth a Birmingham, mae’n haws nac erioed i neidio ar y trên ac ymweld â’r ddau leoliad anhygoel hyn. A pheidiwch ag anghofio archwilio’r lleoedd hynod ddiddorol eraill ar hyd y ffordd.

Pethau i’w gwneud yn Birmingham

Gyda’i orffennol diwydiannol cyfoethog, ei sîn gelfyddydol 
lewyrchus a’i siopau gwych, dylai Birmingham yn bendant fod ar 
eich rhestr o lefydd i ymweld â nhw. Ewch i siopa’n y Bullring, neu 
fwyta yn y ‘Balti Triangle’ fyd enwog. Os ydych yn hoff o siocledi, 
peidiwch ag anghofio ymweld â Cadbury World. Beth bynnag yw’ch 
rheswm am fynd i Birmingham, fyddwch chi byth yn brin o syniadau 
am bethau i’w gwneud.

Gallwch deithio o Birmingham i Aberystwyth o £15.40 â thocyn 
trên Advance.

 

Pethau i’w gwneud yn Aberystwyth

Mwynhewch benwythnos o deithiau cerdded arfordirol a 
diwylliant yn un o drefi arfordirol mwyaf eiconig Cymru. Dewch 
i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion o’r promenâd 
pen-i-gamp, yna neidiwch i mewn i hanes a diwylliant hynafol 
Cymru yng Nghastell Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol 
Cymru. Gyda’i Rheilffordd ar y Clogwyn, y Camera Obscura ac 
amrywiaeth o siopau a chaffis, mae Aberystwyth yn berffaith am 
ddydd allan neu benwythnos hir.

Gallwch deithio o Aberystwyth i Birmingham o £15.40 â thocyn 
trên Advance.

Amwythig - Harlech

Birmingham - Aberystwyth

Pethau i’w gwneud yn yr Amwythig

Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau ffrâm 
bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am benwythnos 
ymlaciol. Gyda’i farchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd 
bendigedig, mae’n cynnig cyfuniad unigryw o hanes, siopa, bwyd 
a diod, i gyd o dan gysgod Castell Normanaidd godidog.

 

Pethau i’w gwneud yn Harlech

Ar arfordir Gogledd Cymru, mae Harlech yn swyno ymwelwyr â 
golygfeydd arfordirol syfrdanol. Tra byddwch yno, ewch i gastell 
Harlech a chael 2 docyn am bris 1 gyda CADW, pan fyddwch 
yn teithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Wedi’i leoli ar graig fawr 
yn edrych dros y twyni, mae castell Harlech yn safle syfrdanol i 
ymweld ag ef. Dysgwch fwy am gynigion 2 am bris 1 CADW yma.

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.

Birmingham - Aberystwyth

Pethau i’w gwneud yn Birmingham

Gyda’i orffennol diwydiannol cyfoethog, ei sîn gelfyddydol lewyrchus a’i siopau gwych, dylai Birmingham yn bendant fod ar eich rhestr o lefydd i ymweld â nhw. Ewch i siopa’n y Bullring, neu fwyta yn y ‘Balti Triangle’ fyd enwog. Os ydych yn hoff o siocledi, peidiwch ag anghofio ymweld â Cadbury World. Beth bynnag yw’ch rheswm am fynd i Birmingham, fyddwch chi byth yn brin o syniadau am bethau i’w gwneud. 

Gallwch deithio o Birmingham i Aberystwyth o £15.40 â thocyn trên Advance.

 

Pethau i’w gwneud yn Aberystwyth

Mwynhewch benwythnos o deithiau cerdded arfordirol a diwylliant yn un o drefi arfordirol mwyaf eiconig Cymru. Dewch i fwynhau golygfeydd godidog o Fae Ceredigion o’r promenâd pen-i-gamp, yna neidiwch i mewn i hanes a diwylliant hynafol Cymru yng Nghastell Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gyda’i Rheilffordd ar y Clogwyn, y Camera Obscura ac amrywiaeth o siopau a chaffis, mae Aberystwyth yn berffaith am ddydd allan neu benwythnos hir.

Gallwch deithio o Aberystwyth i Birmingham o £15.40 â thocyn trên Advance.

 

Amwythig - Harlech

Pethau i’w gwneud yn yr Amwythig

Mae’r Amwythig gyda’i strydoedd canoloesol, adeiladau ffrâm bren, a lonydd carregog yn fan delfrydol am benwythnos ymlaciol. Gyda’i farchnadoedd prysur, gwyliau bywiog a sîn bwyd bendigedig, mae’n cynnig cyfuniad unigryw o hanes, siopa, bwyd a diod, i gyd o dan gysgod Castell Normanaidd godidog.

 

Pethau i’w gwneud yn Harlech

Ar arfordir Gogledd Cymru, mae Harlech yn swyno ymwelwyr â golygfeydd arfordirol syfrdanol. Tra byddwch yno, ewch i gastell Harlech a chael 2 docyn am bris 1 gyda CADW, pan fyddwch yn teithio gyda Trafnidiaeth Cymru. Wedi’i leoli ar graig fawr yn edrych dros y twyni, mae castell Harlech yn safle syfrdanol i ymweld ag ef. Dysgwch fwy am gynigion 2 am bris 1 CADW yma.

 

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol. Mae’r prisiau a nodir yn ddilys tan 28/02/2025.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd