Caergybi

Mae ein gwasanaethau’n rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Chaer i Caergybi.

Doc Penfro

Mae ein trenau’n rhedeg o Abertawe a Chaerfyrddin i Ddoc Penfro.

Mae’r orsaf drenau tua milltir i ffwrdd o’r porthladd ac mae modd mynd yno ar droed neu mewn tacsi.

Abergwaun

Mae trenau’n rhedeg yn uniongyrchol i Harbwr Abergwaun o orsaf Caerdydd Canolog, Abertawe a Manceinion Piccadilly.

Teithio ar fws dŵr

Mae’r Aquabus yn rhedeg gwasanaeth bws dŵr bob awr rhwng tir Castell Caerdydd yng nghanol y ddinas a Mermaid Quay ym Mae Caerdydd. Mae’r cwch yn addas ar gyfer teithwyr sydd â chadeiriau olwyn, pramiau a beiciau.

Mae hefyd yn cynnig teithiau o amgylch Bae Caerdydd, sy’n mynd o gwmpas Mermaid Quay, gwarchodfa natur y gwlypdiroedd a’r Morglawdd. Mae’n ffordd wych o ymlacio a mwynhau golygfeydd hardd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://aquabus.co.uk