Gall ein tîm teithio grŵp arbenigol eich helpu i gynllunio eich taith a dod o hyd i'r pris gorau i brynu eich tocynnau teithio grŵp am hyd at 25% yn llai.
Mae tocynnau trên grŵp yn ffordd berffaith i dri pherson neu fwy arbed arian wrth deithio gyda'i gilydd. Gyda dau opsiwn ar gyfer 3 i 9 o bobl neu 10 neu fwy, gallwn ddod o hyd i'r tocynnau grŵp gorau er mwyn eich helpu i leihau eich costau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn teithio yn ystod y cyfnodau cytunedig gyda'ch grŵp cyfan i sicrhau bod tocynnau'n ddilys.
Mathau o docynnau trên Grŵp
Mae gennym ni ddau fath o docynnau Grŵp, yn dibynnu ar faint o bobl rydych chi'n teithio gyda nhw.
Tocynnau Diwrnod i Grwpiau Bach - 3 i 9 o bobl
Os ydych chi'n teithio gyda'ch gilydd, gallwch arbed arian drwy brynu tocyn Diwrnod i Grwpiau Bach. Mae hyn yn cynnig gostyngiad o 15% ar Deithiau Diwrnod Dwyffordd Safonol.
Mae tocynnau Diwrnod i Grwpiau Bach yn ddilys ar ein rhwydwaith ar ôl 09:30, o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy'r dydd ddydd Sadwrn, dydd Sul ac ar Wyliau Banc.
Rhaid i bob aelod o'r grŵp deithio gyda'i gilydd bob amser i ddilysu'r tocyn. Prynwch docynnau Grŵp ar ein gwefan, ar ein ap, o beiriant tocynnau yn yr orsaf neu o swyddfa docynnau.
Ni ellir defnyddio tocynnau grŵp ar y cyd â chynigion eraill fel tocynnau trên Teulu.
Tocynnau trên i Grwpiau Mawr - 10 o bobl neu fwy
Gyda thocyn trên i Grŵp Mawr, gallwch arbed hyd at 25% ar brisiau ein tocynnau Safonol ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy. Mae nifer cyfyngedig o docynnau grŵp ar gael a rhaid eu prynu o leiaf saith diwrnod cyn teithio.
Mae tocynnau'n ddilys ar ein rhwydwaith ar ôl 09:30, o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy'r dydd Sadwrn, dydd Sul ac ar Wyliau Banc.
Rhaid i bob aelod o'r grŵp deithio gyda'i gilydd bob amser er mwyn i'r tocyn fod yn ddilys. Ni ellir ei ddefnyddio ar y cyd â chynigion eraill fel tocynnau Teulu chwaith.
Sut i brynu tocynnau trên Grŵp
Gwnewch ymholiad archebu drwy'r ffurflen isod a bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith. Neu gallwch ein ffonio ar 08448 560 688 o ddydd Llun i ddydd Gwener 09:00 - 17:00.
Ar gyfer grwpiau llai, prynwch yn uniongyrchol ar ein ap, gwefan neu o swyddfa docynnau.
Pethau i'w cofio wrth deithio gyda thocyn trên Grŵp:
- Rhaid i'ch grŵp deithio gyda'ch gilydd ar yr un trenau.
- Nid ydym yn rhoi gostyngiadau i blant gyda thocynnau Diwrnod Grŵp Bach, ond gall plant eu defnyddio.
- Gall mynd ar drenau ac oddi arnynt mewn grwpiau mawr achosi oedi. Gofynnwn yn garedig i gydlynydd eich grŵp sicrhau bod pawb wedi paratoi pan fydd eich trên yn gadael ac yn cyrraedd.
- Cyrhaeddwch blatfform yr orsaf o leiaf ddeng munud cyn i'ch trên adael.
- Ar y trên, cyn i chi gyrraedd eich gorsaf gyrchfan, dylai eich grŵp fod wedi pacio eu holl eiddo a bod yn barod i fynd.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith