Gallwch arbed hyd at 50% ar deithiau rhwng Crewe a Chaergybi

Mae ein rheilffordd o Crewe i Gaergybi yn ymestyn ar draws arfordir Gogledd Cymru. Cyfle perffaith i chi archwilio arfordiroedd, cefn gwlad a dinasoedd y rhanbarth. Teithiwch o Crewe i Gaergybi ar y trên mewn 2 awr 30 munud, felly dyma’r llwybr perffaith ar gyfer diwrnodau allan arbennig neu benwythnos llawn hwyl.

Pethau i’w gwneud yng Nghaer

Gyda’i phensaernïaeth Duduraidd, ei waliau hynafol a’i threftadaeth 
Rufeinig, mae Caer yn le gwych am benwythnos o fwynhau 
golygfeydd hanesyddol. Ewch am dro ar hyd yr Afon Dyfrdwy, yna 
crwydro trwy oriel siopa dwy haen unigryw’r ddinas (The Rows), cyn 
ymgolli yn swyn bywiog ei marchnadoedd a’i bwytai.

 

Pethau i’w gwneud yn Rhosneigr

Ar ôl cerdded ychydig ar ôl dod oddi ar y trên yn Rhosneigr, 
byddwch ar arfordir anhygoel Ynys Môn. Mae’r pentref arfordirol 
tlws hwn yn cynnig y cyfle perffaith i chi fynd ar antur ymlaciol, 
ac archwilio siopau hen ffasiwn, caffis clyd a thraethau syfrdanol 
sy’n denu cerddwyr a phobl sy’n frwd dros chwaraeon dŵr, o bob 
lefel. 

Conwy

Caer - Rhosneigr

Pethau i’w gwneud yng Nghonwy

Yn enwog am ei chastell godidog a’i muriau hynafol o’r 13eg 
ganrif, mae Conwy yn baradwys i bobl sy’n dwli ar hanes. 
Ymlwybrwch trwy’r strydoedd cul llawn siopau traddodiadol 
a bwytai bendigedig, yna crwydrwch i lawr y cei campus. A 
chofiwch gael hunlun o flaen y tŷ lleiaf ym Mhrydain hefyd.

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol.

Caer - Rhosneigr

Pethau i’w gwneud yng Nghaer

Gyda’i phensaernïaeth Duduraidd, ei waliau hynafol a’i threftadaeth Rufeinig, mae Caer yn le gwych am benwythnos o fwynhau golygfeydd hanesyddol. Ewch am dro ar hyd yr Afon Dyfrdwy, yna crwydro trwy oriel siopa dwy haen unigryw’r ddinas (The Rows), cyn ymgolli yn swyn bywiog ei marchnadoedd a’i bwytai.

 

Pethau i’w gwneud yn Rhosneigr

Ar ôl cerdded ychydig ar ôl dod oddi ar y trên yn Rhosneigr, byddwch ar arfordir anhygoel Ynys Môn. Mae’r pentref arfordirol tlws hwn yn cynnig y cyfle perffaith i chi fynd ar antur ymlaciol, ac archwilio siopau hen ffasiwn, caffis clyd a thraethau syfrdanol sy’n denu cerddwyr a phobl sy’n frwd dros chwaraeon dŵr, o bob lefel.

 

Conwy

Pethau i’w gwneud yng Nghonwy

Yn enwog am ei chastell godidog a’i muriau hynafol o’r 13eg ganrif, mae Conwy yn baradwys i bobl sy’n dwli ar hanes. Ymlwybrwch trwy’r strydoedd cul llawn siopau traddodiadol a bwytai bendigedig, yna crwydrwch i lawr y cei campus. A chofiwch gael hunlun o flaen y tŷ lleiaf ym Mhrydain hefyd.

 

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2023 a 31/12/2023 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw amser ar gyfer yr un siwrnai, ar yr un diwrnod â’r daith, oedd 50.2%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol.

 
Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd