Plan your train journey

Atyniadau

TfW train passing infront of a Cadw castle

Safleoedd Hanesyddol Cadw

Gorsaf agosaf: Cydweli

Cynnig: 2 docyn am bris 1

Gyda thocyn trên dilys, gallwch gael dau docyn mynediad am bris un pan fyddwch yn ymweld â rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.

Dysgwch fwy > 2 docyn am bris 1 i Dirnodau Hanesyddol Cymru.

 

Pembrokeshire Coastal Cottages

Pembrokeshire Coastal Cottages

Cynnig: Cewch £50 oddi ar bris llawn arosiadau

Cewch £50 oddi ar bris llawn arosiadau dros nos pan fyddwch yn cyrraedd eich cyrchfan ar y trên gyda Trafnidiaeth Cymru. Gellir dod o hyd i'r holl delerau ac amodau a manylion y cynnig yma.

Penderyn Swansea Copperworks Distillery

Distyllfa Gwaith Copr Penderyn Abertawe

Gorsaf agosaf: Abertawe

Cynnig: 2 am 1 ar deithiau distyllfa

Cynnig: 20% oddi ar ddosbarth meistr wisgi

Cael 2 am 1 ar deithiau distyllfa neu 20% oddi ar ddosbarth wisgi yn unrhyw un o Ganolfannau Ymwelwyr Distyllfa Penderyn (Bannau Brycheiniog, Llandudno neu Abertawe).

Sut i fanteisio? Nodwch TFWR241T wrth y ddesg dalu ar gyfer teithiau distyllfa a chod TFWR20M ar gyfer y dosbarth meistr.

Telerau ac amodau
  • Rhaid i gwsmeriaid ddangos tocyn trên ‘yr un diwrnod’ dilys ar ôl cyrraedd Distyllfa Penderyn i adbrynu'r cynnig.
  • Cynnig yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2025.

Meerkat

Sw trofannol Plantasia

Gorsaf agosaf: Abertawe

Cynnig: 20% oddi ar y pris mynediad

Archwiliwch goedwig law go iawn gyda channoedd o anifeiliaid, popeth o grocodeiliaid i 'meerkats'.

Sut i fanteisio?

Teithwyr trên: Nodwch y cod ‘DAYSOUT20’ wrth archebu ar-lein.

Teithwyr Traws: Nodwch y cod ‘TRAWS20’ wrth archebu ar-lein.

Telerau ac amodau
  • Yn ddilys ar Fynediad Cyffredinol a Digwyddiadau Arbennig, heb gynnwys Dinomania, Calan Gaeaf a Nadolig.
  • Rhaid i ymwelwyr gyflwyno tocyn trên neu fws dilys yr un diwrnod wrth gyrraedd.
  • Yn ddilys ar gyfer archebion ar-lein yn unig.

Vale of Rheidol Railway

Rheilffordd Dyffryn Rheidol

Gorsaf agosaf: Aberystwyth

Cynnig: 10% oddi ar docynnau dwyffordd

Ewch ar daith ar Reilffordd Dyffryn Rheidol ar un o drenau bach arbennig Cymru. Mae’r llinell gul, hanesyddol hon yn troelli drwy dirweddau dramatig Canolbarth Cymru, gan fynd o’r dref glan môr, Aberystwyth, i raeadrau syfrdanol Pontarfynach.

Agorwyd yn wreiddiol ym 1902 er mwyn gwasanaethu pyllau plwm a diwydiant pren Dyffryn Rheidol. Heddiw, mae’r trenau locomotif stêm a adnewyddwyd yn cario coetsis ar hyd llwybr 12 milltir o hyd i fyny 600 troedfedd i mewn i Fynyddoedd Cambrian.

Sut i fanteisio? Dangoswch eich tocyn trên dilys ar ôl cyrraedd y sw.

Telerau ac amodau
  • Gostyngiad ar gyfer tocynnau dychwelyd yn unig, nid yw’n ddilys ar gyfer digwyddiadau arbennig na thocynnau sengl.
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw.
  • Cyflwynwch docyn dychwelyd dilys am y diwrnod hwnnw wrth gyrraedd.