Os ydych chi'n mynd o Gaerdydd Canolog i Abertawe, beth am fynd ar y trên? Byddwch chi'n arbed amser ac ymdrech - ac mae'n debyg ei fod yn rhatach nag y byddech chi'n ei ddisgwyl. Osgowch eistedd mewn traffig wrth deithio ar draws De Cymru.
Manylion allweddol
- Hyd y daith: 53 munud ar gyfartaledd
- Trenau uniongyrchol: Oes
- Amlder: Hyd at 50+ o drenau'r dydd
- Trên cyntaf: Tua 05:42 o Gaerdydd Canolog (gall amrywio ar ddyddiau Sul)
- Trên olaf: Tua 01:00 o Gaerdydd Canolog (gall amrywio ar y penwythnos)
- Gorsafoedd galw allweddol: Pen-y-bont ar Ogwr, Parcffordd Port Talbot, Castell-nedd
- Gorsaf darddiad: Caerdydd Canolog
- Gorsaf gyrchfan: Abertawe
- Cyfleusterau: Seddi eang, mannau gwefru a Wi-Fi am ddim ar y trên.
- Arbedion ar docynnau: Prynwch yn gynnar, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian.
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru -
Uniongyrchol
Trenau o Gaerdydd i Abertawe
Un o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw'r trên o Gaerdydd i Abertawe. Gyda threnau'n rhedeg sawl gwaith yr awr a phrisiau tocynnau fforddiadwy, mae teithio ar y trên yn hawdd iawn - boed ar gyfer gwaith neu hamdden.
Peidiwch ag eistedd mewn traffig. Ewch ati i ddarllen llyfr newydd, gwrandewch ar eich hoff bodlediad neu mwynhewch amser gyda ffrindiau a theulu. Mae'r daith fel arfer yn cymryd llai nag awr, felly byddwch chi yno cyn i chi sylweddoli. Mae'r rhan fwyaf o drenau'n uniongyrchol hefyd, felly rydych yn osgoi'r drafferth o newid trenau.
Darganfyddwch sut y gallai'r trên fod y ffordd orau i chi deithio o Gaerdydd Canolog i Abertawe heddiw.
Pam teithio ar y trên o Gaerdydd i Abertawe?
Mae Abertawe yn un o ddinasoedd poblogaidd Cymru, wedi'i lleoli ar arfordir hardd De Cymru ym Mae Abertawe.
- Darganfyddwch y traethau - Mae Abertawe wedi'i hamgylchynu gan draethau trawiadol, o Benrhyn Gŵyr i Fae'r Tri Chlogwyn.
- Ewch i Farchnad Abertawe - ewch i'r farchnad dan do anhygoel i brynu cynhyrchion lleol.
- Mwynhewch brom Abertawe - ewch am dro ar droed neu ar gefn beic, i lawr prom Abertawe i fwynhau awyrgylch glan môr y ddinas.
- Gweiddwch am y Gweilch - Mae Abertawe yn gartref i'r Gweilch - un o dimau rygbi mwyaf poblogaidd y DU.
Dysgwch ragor yn ein canllaw i ymweld ag Abertawe am awgrymiadau a chyngor teithio.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocyn trên o Gaerdydd i Abertawe
Arbedwch arian ar eich taith gyda'r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance*: Prynwch docynnau’n gynnar i fachu’r prisiau gorau.
- Cardiau rheilffordd: Arbedwch hyd at draean ar eich taith nesaf.
- Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithio hyblyg, unrhyw bryd yn ystod y dydd.
- Tocynnau tymor - Gwerth gwych am arian i deithwyr rheolaidd.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaerdydd i Abertawe?
Mae trenau fel arfer o dan awr o Gaerdydd i Abertawe.
Pa mor aml mae trenau o Gaerdydd i Abertawe?
Mae sawl trên yr awr, felly ni fyddwch byth yn aros yn rhy hir.
Pa mor gynnar alla i brynu tocynnau trên o Gaerdydd i Abertawe?
Fel arfer, mae trenau ar gael o tua 12 wythnos cyn dyddiad y daith.
Pryd mae'r trên cyntaf o Gaerdydd i Abertawe?
Mae trenau'n cychwyn tua 05:00 y bore, yn dibynnu ar y diwrnod.
Pryd mae'r trên olaf o Gaerdydd i Abertawe?
Yn dibynnu ar y diwrnod, mae trenau fel arfer yn rhedeg tan tua 01:00 y bore.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-