
Datganiad Preifatrwydd Cerdyn Teithio
Am y cynllun Cerdyn Teithio Rhatach Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu cardiau teithio rhatach i unigolion sy'n gymwys i'w derbyn. Mae'r ffordd y darperir y cardiau hyn yn newi...
Telerau ac Amodau ar Gyfer Deiliaid Cardiau
Mae cynllun tocynnau teithio rhatach Cymru [y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Cynllun'] yn ildio pris tocyn teithio ar gyfer y daith a wneir gan bersonau cymwys.
Daw'r telerau defnyddio hyn i rym ar 1 Mehefin 2019 ac maent yn disodli'r telerau defnyddio blaenorol. Mae'r telerau defnyddio hyn yn berthnasol i ddefnyddio Cardiau Teithio Rhatach waeth a gafodd y Cardiau Teithio Rhatach hynny eu cyhoeddi cyn neu ar ôl i'r telerau defnyddio hyn ddod i rym.
Bydd gan ddeiliaid cardiau sy'n meddu ar Gerdyn Teithio Rhatach dilys hawl i gael teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol cymwys ac ar wasanaethau rheilffyrdd dethol sy'n gweithredu yng Nghymru, fel y’u diffinnir yn https://trctrenau.cymru/cy/tocynnau-teithio-rhatach gyda'r eithriadau canlynol;
Gall rhai gwasanaethau lleol nad ydynt ar agor i'r cyhoedd sy'n teithio, yn enwedig y rhai sy'n cael eu gweithredu i ysgolion a gweithleoedd, gael eu heithrio drwy gytundeb rhwng Gweithredwyr sy'n Cymryd Rhan a'r awdurdod dyroddi.
Ni chaiff gwasanaethau rheilffyrdd, (nad ydynt wedi'u cynnwys uchod), gwasanaethau bws/rheilffordd i fwydo gwasanaethau eraill sy'n codi tâl sy’n seiliedig ar docyn rheilffordd, gwasanaethau a ddarperir o dan Gytundeb lle y bu toriad dros dro yn y gwasanaeth rheilffordd eu cynnwys yn y Cynllun.
Ni chaiff gwibdeithiau a theithiau, gwasanaethau taith i ymwelwyr, gwasanaethau bysus pellter hir, gwasanaethau maes awyr a phorthladdoedd fferi eu cynnwys yn y Cynllun.
Ni fydd unrhyw wasanaethau lle mae'n ymddangos i'r Cyngor bod prisiau'n cynnwys elfen amwynder arbennig, e.e. teithiau lleol, gweld y golygfeydd a gwasanaethau parcio a theithio, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun.
Ni fydd gwasanaethau tacsi (heblaw pan fyddant yn gweithredu gwasanaethau bws lleol cofrestredig) yn cael eu cynnwys yn y Cynllun.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am eich Cerdyn Teithio Rhatach newydd drwy ymweld â www.tfw.gov.wales/cy/cerdyn-teithio
Teithio ar wasanaethau bysiau lleol sy'n gweithredu'n gyfan gwbl yng Nghymru, neu ar y rhai sy'n dechrau/terfynu wrth fannau cyfagos i Gymru, ar yr amod nad yw'r daith drawsffiniol yn golygu newid bws o fewn Lloegr.
Mae’r Cardiau Teithio Rhatach yn ddilys ar bob adeg o'r dydd o fewn unrhyw wythnos.
Rhaid i'r awdurdod dyroddi ddarparu cerdyn i bersonau ("person cymwys") sy'n preswylio yng Nghymru, ac ymddangos i'r awdurdod dyroddi ei fod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a ddiffinnir yn y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o'r enw "Dull Cyffredin o Ymdrin â Chymhwysedd https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-06/canllawiau-ar-y-cynllun-teithio-rhatach-ar-fws.pdf
Mae'r awdurdod dyroddi yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw gerdyn lle nad yw deiliad y cerdyn yn bodloni unrhyw un o'r gofynion cymhwysedd a nodir yn y canllawiau hyn mwyach.
Mae Cardiau Teithio Rhatach yn ddilys o'r dyddiad y’u derbynnir a byddant yn dod i ben ar y dyddiad a nodir ar y cerdyn. Mae'r awdurdod dyroddi yn cadw'r hawl i ganslo cardiau pan nad yw deiliad y swydd bellach yn bodloni'r gofynion cymhwysedd a bennir ym mharagraff 6. Yn yr achos hwnnw, bydd yr awdurdod dyroddi yn darparu cadarnhad ysgrifenedig bod y cerdyn wedi ei ganslo a'r rheswm dros hynny.
Bydd y Cerdyn Teithio Rhatach cyntaf yn cael ei ddyroddi am ddim. Caiff yr awdurdod dyroddi godi tâl am ddyroddi unrhyw Gerdyn Teithio Rhatach newydd, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n fwy na'r costau sy'n gysylltiedig â dyroddi’r cyfryw Gerdyn Teithio Rhatach.
Ni fydd yr awdurdod dyroddi yn atebol am unrhyw arian a werir i dalu treuliau yr eir iddynt gan yr ymgeisydd o ran cael a chyflwyno dogfennaeth, gan gynnwys tystiolaeth ffotograffig a/neu feddygol os oes angen, er mwyn penderfynu ar gymhwysedd wrth wneud cais i barhau neu adnewyddu cerdyn.
Mae defnyddio Cardiau Teithio Rhatach yn amodol ar yr amodau ychwanegol canlynol:
Bydd gan y geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron a nodir:
Ystyr "Awdurdod" yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n gweithredu fel awdurdod consesiynau teithio ar gyfer y Cynllun;
Ystyr "Cyngor" yw'r awdurdod yr oedd deiliad y cerdyn yn byw ynddo pan roddwyd y Cerdyn Teithio Rhatach;
Ystyr "person cymwys" yw'r ystyr a roddir iddo ym mharagraff 6;
Ystyr "Gweithredwr" yw gweithredwr gwasanaethau bysiau yn ardal y Cynllun;
Ystyr "Cerdyn Teithio Rhatach" yw trwydded consesiynau teithio statudol a roddir yn unol â'r Cynllun;
Ystyr "deiliad cerdyn" yw person y rhoddwyd Cerdyn Teithio Rhatach iddo yn unol â'r Cynllun;
Ystyr "Awdurdod Dyroddi" yw'r Awdurdod neu unrhyw un y mae'r Awdurdod wedi dirprwyo'r swyddogaeth o roi Cardiau Teithio Rhatach i bobl cymwys, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru a PTI Cymru Ltd; ac
Ystyr "telerau defnyddio" yw'r telerau a'r amodau hyn ar gyfer defnyddio Cerdyn Teithio Rhatach yn unol â'r Cynllun.