Cerdyn teithio a cherdyn bws

Mae rhagor o wybodaeth am ein cerdyn teithio a’n cerdyn bws ar gael yma, yn cynnwys sut gallwch chi wneud cais a beth i’w wneud os ydych chi’n dal i aros.

 

Sut i wneud cais am gerdyn bws neu gerdyn teithio

Gallwch wneud cais am eich cerdyn bws ar-lein neu ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo wneud cais ar eich rhan. Gallwch hefyd adnewyddu eich cerdyn bws presennol ar-lein.

Y ffordd gyflymaf o wneud cais am eich cerdyn teithio yw drwy ei wneud ar-lein. Gallwch hefyd gysylltu â ni ar 03003 034 240 neu anfon e-bost at travelcards@tfw.wales.

Tarwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin defnyddiol am gerdyn teithio os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

 

Wedi gwneud cais yn barod?

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gerdyn teithio neu gerdyn bws a’ch bod am gadw golwg ar eich cais, neu os oes gennych chi gerdyn yn barod a’ch bod am ddiweddaru eich manylion, ewch i "Fy ngherdyn neu gais presennol".

Byddwn yn gofyn i chi nodi eich rhif Yswiriant Gwladol, neu rif eich cerdyn, eich dyddiad geni a’ch cod post.