Rydyn i'n gweddnewid trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hon yn dipyn o gamp ac mae angen eich help chi arnom.
Mae'n rhaid i ni feddwl am drenau, bysiau, cerdded a beicio, felly mae llawer i'w wneud.
Rydyn ni wedi creu cymuned ar-lein newydd o'r enw Sgwrs (Chat yn Saesneg) i'n helpu ni i wneud hyn a hoffem i chi gymryd rhan. Bydd yr hyn rydych chi ac eraill yn ei ddweud wrthym yn dylanwadu ar y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud.
Sut y byddwn yn diolch ichi
I ddweud diolch am ein helpu, bydd gennych:
- Mynediad at gynnwys i aelodau yn unig
-
Cael eich cynnwys mewn loterïau neu gystadlaethau, gyda gwobrau i gystadleuwyr a ddewisir ar hap am gymryd rhan yn yr arolygon
-
Mwy o fanteision i aelodau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Mae gennym ddiddordeb yn yr hyn rydych chi'n ei feddwl fel y gallwn ni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth rydyn ni i gyd eisiau ei ddefnyddio.
Byddwn yn gofyn ichi ein helpu gyda phethau fel arolygon a chymryd rhan mewn sgyrsiau byw i ddeall eich tybiau a'ch barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.
Rydyn ni wir am gael eich barn oherwydd rydyn ni'n credu bod hyn yn gyffrous ac mae gennym ni lawer o waith i'w wneud i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth o'r radd flaenaf yng Nghymru yr ydym i gyd eisiau ei ddefnyddio, sy'n ein helpu i gyrraedd y man yr ydym am ei gyrraedd, cysylltu â'n cymunedau. Rydym yn gobeithio eich bod chi'n awyddus hefyd.
Hoffem yn fawr iawn ichi gymryd rhan.
A fyddai gennych ddiddordeb?
Cliciwch ar y ddolen isod i agor ein ffurflen gofrestru. Byddwn yn dweud mwy wrthych am ein cymuned ac yn gofyn rhai cwestiynau cymwys fel y gallwn ddod i'ch adnabod.
Defnyddir ein panel at ddibenion ymchwil a chymuned we yn unig, ni fyddwn yn cysylltu â chi am unrhyw resymau gwerthu neu hyrwyddo, dyna ein hymrwymiad i chi. Gweler ein polisi preifatrwydd yma.