Beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi
Rhwydwaith wedi'i adfywio a fydd yn gweld gwasanaethau newydd a cherbydau, atebion arloesol, a rhaglen enfawr o fuddsoddi mewn gorsafoedd.
Gweld pa welliannau trafnidiaeth rydym yn eu gwneud yn eich ardal.
Rhwydwaith wedi’i adfywio fydd yn gweld trenau a gwasanaethau newydd, atebion arloesol, a rhaglen enfawr o fuddsoddiad mewn gorsafoedd
- Rydym yn buddsoddi £738m i drawsnewid rheilffyrdd y cymoedd i Dreherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton, yn trydaneiddio 172 km o’r trac ac yn gwella’r seilwaith fel bod teithiau’n cymryd llai o amser a bod mwy o drenau bob awr.
- O 2023, bydd buddsoddiad o £800m yn sicrhau bod 95% o’r teithiau ar drenau newydd. Bydd mwy na hanner y trenau yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.
- Erbyn Rhagfyr 2023, rydym am ddarparu 285 (29%) o wasanaethau ychwanegol bob dydd, yn cynnwys gwelliannau ar linellau Glyn Ebwy, y Cambrian a Rheilffordd Calon Cymru a Metro Gogledd Cymru (Wrecsam-Bidston). Bydd gwasanaeth newydd yn cysylltu Caerdydd a Lerpwl drwy Wrecsam.
DIWEDDARIAD: Oherwydd effaith enfawr COVID-19, bu’n rhaid newid rhai dyddiadau gwreiddiol, a osodwyd yn 2018. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma. - Ar y Sul, bydd o wasanaethau ychwanegol ar gael ar draws Cymru erbyn Rhagfyr 2019.
- Rydym yn creu mwy na 600 o swyddi newydd, yn cynnwys 200 o staff gwasanaeth cwsmeriaid newydd ar y trenau, ac yn ychwanegu 30 prentisiaeth bob blwyddyn.
- Rydym yn buddsoddi £194m i wella’r gorsafoedd, ac yn adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd. Bydd cronfa o £15m ar gyfer hwyluso mynediad i orsafoedd ac rydym yn lansio ap newydd i gwsmeriaid sydd angen cymorth i ‘gyrraedd a mynd’ o Ebrill 2020.
- Bydd o leiaf 1,500 o lefydd parcio car newydd yn cael eu creu.
- Rydym yn trawsnewid safon y cyfleusterau prynu tocynnau erbyn 2023 gan sicrhau bod mwy ar gael, ac yn cyflwyno Ad-dalu am Oedi os oes oedi o dros 15 munud o fis Ionawr 2019.
- Ynni 100% gynaliadwy fydd yn pweru gorsafoedd a gwifrau uwch ben, gydag o leiaf 50% yn dod o Gymru.
- Bydd mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd ar gael ar 85% o deithiau erbyn 2024.
- Rydym yn cyflwyno saith o Bartneriaethau Rheilffordd Cymunedol newydd, yn cyflogi 30 llysgennad Cymunedau a Chwsmeriaid ac yn buddsoddi mwy na £1.25m bob blwyddyn mewn gweithgaredd cymunedol. Bydd lleoedd sydd ddim yn cael eu defnyddio mewn gorsafoedd yn cael eu trawsnewid i ateb anghenion y gymuned.
- Byddwn yn cyflwyno systemau tocynnau clyfar ar draws Cymru a’r gororau. Bydd dilyswyr ar Metro De Cymru yn caniatáu i chi brynu tocynnau hyblyg talu-wrth-fynd. Mewn mannau eraill, bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio tocynnau symudol i sicrhau eu bod wastad yn talu’r pris isaf.
- Bydd teithio am ddim i blant dan 5 yn ymestyn i dan 11. Bydd teithiau hanner pris yn cael eu cynnig i bobl ifanc 16-18 oed. Mae pobl dan 16 yn teithio am ddim ar adegau tawel gydag oedolyn sy’n talu’n llawn.
- Rydym yn gosod dros 700 o sgriniau cwsmer newydd ar draws y rhwydwaith ac mewn lleoliadau eraill yn cynnwys colegau, ysbytai a gweithleoedd.
- Rydym yn buddsoddi mewn mwy na 200 o beiriannau tocynnau newydd, ac yn gwerthu tocynnau mewn siopau cyfleus lleol i wella mynediad.
- I gynnal rhwydwaith integredig, rydym yn sicrhau bod yna arwyddion addas mhob gorsaf i hyrwyddo teithio ymlaen ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Rydym hefyd yn ariannu a chefnogi staff sydd am ddysgu Cymraeg
Bydd yr holl welliannau hyn yn helpu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - gyrru ffyniant, gwella cydlyniant cymunedau Cymru a'r Gororau a chyfrannu at Gymru iachach a mwy cyfartal