Blwyddyn newydd. Teithiau newydd.
Blwyddyn newydd yw'r amser perffaith i deithio gyda bwriad newydd, i wneud pob taith yn fwy hamddenol, yn fwy gwyrdd ac yn fwy ymlacio.
Felly eleni, beth am adael i'ch addunedau ddechrau ar y trên?
Amser i chi'ch hun, ar y trên
Mae teithio ar y trên yn cynnig rhywbeth rydyn ni'n aml yn anghofio ei flaenoriaethu - amser.
Ar y trên, mae lle i arafu. Darllenwch lyfr, gwrandewch ar gerddoriaeth neu gwyliwch y byd yn mynd heibio. Dim traffig, dim straen, dim ond ffordd fwy esmwyth o gyrraedd eich cyrchfan gan deimlo'n hamddenol ac yn barod am y diwrnod.
Teithio sy'n gweithio er eich lles chi.
Dewis gwyrddach i Gymru
Mae teithio ar y trên yn un o'r ffyrdd symlaf o leihau eich effaith amgylcheddol.
Mae trenau’n cynhyrchu llawer llai o allyriadau na cheir, gan helpu i ddiogelu tirweddau a chymunedau Cymru er lles cenedlaethau'r dyfodol. Pan fyddwch chi'n teithio gyda ni, rydych chi'n cefnogi rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy a dyfodol gwyrddach i Gymru.
Gyda'n gilydd, gallwn wneud i bob taith gyfrif.
Dechreuwch y flwyddyn ar y trywydd cywir
P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn crwydro Cymru neu'n ymweld â ffrindiau a theulu, mae teithio gyda ni yn gwneud y daith yn rhan o'r adduned.