Mae tref farchnad Pwllheli ar Benrhyn Llŷn yng nghornel gogledd orllewin Cymru, ac yn elwa o'r lloches a roddir gan Fae Ceredigion. Diolch i’r ffaith bod cyfran helaeth o'r trigolion yn siarad Cymraeg, mae ymwelwyr yn cael cynnig talp go iawn o hanes, diwylliant a chyfeillgarwch traddodiadol Cymru. Tyfodd Pwllheli o amgylch y diwydiannau pysgota ac adeiladu llongau, a dyma fan geni Plaid Cymru.

Gyda’r gwasanaethau trên rheolaidd ac agosrwydd at Borthmadog mae digon o atyniadau teuluol i’w mwynhau, sy’n gwneud y dref hon yn gyrchfan wyliau ddelfrydol.

Pwllheli

 

1. Adeiladwch Gestyll Tywod ar Draeth Pwllheli

Mae gan drigolion lwcus Pwllheli fynediad i ddau draeth prydferth - Glan y Don a Thraeth y De, gyda'r cyntaf yn un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru. Yn ymestyn am tua thair milltir i benrhyn Penychain, gyda chymhlethfa o dwyni mawr y tu ôl iddo, mae'r tywod yn feddal ac yn euraidd.  Mae Traeth y De, ar y llaw arall, wedi'i orchuddio gan raean ac yn ymestyn o Lanbedrog, gyda'i bromenâd trawiadol, i Garreg yr Imbill. Mae'r promenâd yn rhoi mynediad hawdd i'r parc sglefrio cyfagos, siopau lleol a mwynderau eraill.

Mae Glan y Don wedi ennill baner las am ansawdd dŵr, a diogelwch a rheolaeth traeth. Gyda dyfroedd bas, gwasanaeth achubwyr bywyd a digon o le, mae’n boblogaidd gyda theuluoedd, syrffwyr, llongwyr a physgotwyr.

 

2. Cerdded Llwybr Arfordir Llŷn

Yn dilyn yr arfordir llawn golygfeydd am tua 91 milltir (146 km) o Ben Llŷn, mae Llwybr Arfordir Llŷn yn llwybr wedi’i arwyddo ac yn rhan o’r Llwybr Arfordir Cymru llawer hwy. Yn ymestyn o Borthmadog i Gaernarfon, mae llawer o'r llwybr yn mynd trwy Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Wedi’i agor yn 2006, mae’r llwybr wedi’i wella dros y blynyddoedd, gyda’r arwyneb yn addas ar gyfer beicio os yw hynny’n well gennych. Mae gan y rhan fwyaf o'r trenau i Bwllheli leoedd penodol ar gyfer beiciau os dymunwch ddod â'ch beic.

Mae’r llwybr yn eich arwain drwy gildraethau cysgodol, ar draws clogwyni garw, a dyffrynnoedd dyfnion. Byddai pererinion wedi cerdded y llwybr hwn ar eu ffordd i Ynys Enlli, man claddu tybiedig y dewin Myrddin ac sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae’r bywyd gwyllt toreithiog yn denu llawer o ymwelwyr i’r ardal, gyda morloi llwyd Iwerydd a dolffiniaid trwyn potel i’w gweld yn aml oddi ar yr arfordir, tra bo’r twyni a’r gweundir yn gartref i nicos, gwenoliaid y glennydd a chlochdariaid y cerrig. Un o’r ychydig safleoedd lle mae brain coesgoch yn magu, a’r unig le ar dir mawr Prydain lle gwelwch y cor-rosyn rhuddfannog yn tyfu’n wyllt, mae Llwybr Arfordir Llŷn yn ddewis hanfodol i bawb sy’n hoff o fyd natur.

Llyn Coastal Path


3. Ewch yn Wyllt yng Nghanolfan Gweithgareddau Parc Glasfryn

Gyda chymaint o weithgareddau i’w mwynhau yng Nghanolfan Gweithgareddau Parc Glasfryn, mae rhywbeth at ddant pawb, a boed yn dywydd gwlyb neu’n heulwen, ni fydd yn tynnu oddi ar yr hwyl.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys go-certi, saethyddiaeth a chwarae meddal, tra bo’r llynnoedd trawiadol yn ddelfrydol ar gyfer ôlfyrddio, y cwrs rhwystrau dŵr, a hyd yn oed gwersi pysgota bras. Dylai jyncis adrenalin anelu am y ‘The Blob’ 4 metr o uchder, ond gall eraill fwynhau ychydig o ymlacio, caiacio neu badlfyrddio ar draws y llyn tawel gyda golygfeydd hyfryd o’r mynyddoedd, a theimlo’r straen yn diflannu.

Mwynhewch brydau cartref yn y caffi, dewiswch o fwydlen y bwyty, neu rhowch gynnig ar y bar trwyddedig. Mae gan y siop ar y safle ddetholiad llawn o ddanteithion a gynhyrchir yn lleol, ynghyd ag ystod wych o anrhegion a nwyddau.

 

Mae gan Bwllheli atyniadau di-ri a digon o ddewis o lefydd i aros, gan gynnwys lletyau gwely a brecwast clyd, bythynnod cyfforddus a gwestai safonol penigamp.