Tenby

Wedi ei lleoli ar gyrion gorllewinol Bae Caerfyrddin, mae’n hawdd cyrraedd ‘tref gaerog’ hanesyddol Dinbych-y-pysgod ar y trên ac mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, drwy gydol y flwyddyn. Yn un o bedwar traeth godidog yn Ninbych-y-pysgod, enwodd y Sunday Times Draeth y Castell fel y gorau yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r castell Normanaidd a’r waliau o’r 13eg ganrif yn rhoi swyn hynafol i Ddinbych-y-pysgod sy’n annog ymwelwyr i archwilio ei lwybrau troellog, cul, tafarndai canoloesol a siopau bwtîc hyfryd sy’n arddangos crefftau lleol. Mae’n cael ei gydnabod yn eang fel ‘y berl yng nghoron Sir Benfro’.

Gyda’i harbwr darluniaidd a bythynnod lliwgar, mae Dinbych-y-pysgod yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi yng Nghymru. Rydym wedi cynnwys rhai o’r atyniadau y mae’n rhaid eu gweld yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer eich ymweliad nesaf isod.

 

 

Ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod

Agorwyd yr amgueddfa annibynnol hynaf yng Nghymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, ym 1878. Mae’n gartref i gasgliad eang o arteffactau biolegol, daearegol a morol. Mae’r casgliad hwn yn parhau i dyfu a datblygu, gan adrodd stori Dinbych-y-pysgod a’i phobl.

Mae gan y ddwy oriel gelf - un sy’n cynnwys arddangosfa barhaol - ddarnau o waith gan artistiaid sy’n cynnwys Meirion Jones, Gwen ac Augustus John, John Uzzell Edwards ac (ar gyfer y rhai sy'n hoffi pethau cyfoes) Nicky Wire o’r band enwog o Gymru, y Manic Street Preachers.

Mae’r arteffactau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys eitemau o’r cyfnod Cyn-Gambriaidd hyd at oes y Rhufeiniaid, arddangosfa sy’n ymwneud â sinema Cymru ac un sy’n canolbwyntio ar fôr-ladron o orffennol Dinbych-y-pysgod. Un o’r môr-ladron enwocaf oedd y dyn lleol Barthlomew Roberts, a adwaenid yn ddiweddarach fel Barti Ddu. Un arall a oedd mor enwog â seren Hollywood Jack Sparrow oedd Harri Morgan, a roddodd ei enw i frand poblogaidd o rym.

Er ei bod yn bosibl mai rym oedd hoff ddiod môr-ladron Dinbych-y-pysgod, mae paned o de a darn o gacen o’r caffi ar y safle yn llawer gwell ar ddiwrnod glawog.

 

Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd

Wedi ei adeiladu o garreg leol yn y 1500au, byddai Tŷ’r Masnachwyr Tuduraidd wedi bod yn un o’r adeiladau gorau a drutaf yn Ninbych-y-pysgod. Roedd y perchennog yn masnachu mewn nwyddau a oedd yn cyrraedd yr harbwr o bob cwr o’r byd.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd I bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei reoli ganddi, ac mae’n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar fywyd yn oes y Tuduriaid. Mae’r tu mewn wedi ei ddodrefnu â darnau replica Tuduraidd, yr ardd wedi ei phlannu â pherlysiau traddodiadol i’w defnyddio yn y gegin, a’r siop yn llawn cynnyrch go iawn.

Gyda nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn a thywyswyr gwybodus yn darlunio bywyd yn Ninbych-y-pysgod y Tuduriaid, mae’r cam hwn yn ôl mewn amser yn ffordd wych o ddysgu rhywfaint o hanes.

 

Gorsaf Bad Achub Dinbych-y-pysgod

Mae gorsaf bad achub wedi bod yn Ninbych-y-pysgod ers 1852. Ar hyn o bryd, mae dau fad achub wedi eu lleoli yn yr harbwr.  Mae Hayden Miller yn gwch o safon Tamar, wedi ei enwi ar ôl y ffermwr a adawodd arian i’r RNLI yn ei ewyllys - £3 miliwn i fod yn fanwl gywir. Mae’r bad achub arall, y Georgina Taylor, yn gwch achub o safon D ar y glannau.

Wedi ei lleoli mewn gorsaf llithrffordd uwch-dechnoleg, mae oriel wylio ar gael i wylio’r bad achub yn cael ei lansio. Byddwch hefyd yn clywed gan y criwiau am yr hyn sydd ei angen i fod yn ddewr yn y tonnau ac achub bywydau. Gallwch gael golwg dda ar y cychod, crwydro’r orsaf cychod achub a mwynhau profiad gorau’r RNLI i ymwelwyr.

 

Gweithdy Llwyau Caru

Cyfle i ddysgu mwy am y traddodiad rhamantus o greu llwyau caru, sy’n dyddio’n ôl gannoedd o flynyddoedd. Archwiliwch yr amrywiaeth eang o lwyau sy’n cael eu harddangos, a phrynu llwy bersonol y gallwch chi neu rywun arbennig ei thrysori am flynyddoedd i ddod.

 

Sut i dreulio’r penwythnos perffaith yn Ninbych-y-pysgod

  • Heatherton World of Activities - Cyfle i fwynhau gweithgareddau sy’n addas i bawb o bob oed, fel saethyddiaeth, ystafelloedd dianc, weiren wib, a llawer mwy. 
  • Parc Thema Oakwood - Ai adrenalin sy'n mynd â'ch bryd? Bydd reids cyflym fel Megaphobia a Speed yn siŵr o’ch diddanu drwy gydol y dydd.
  • Ynys y Santes Catherine - Un o’r ychydig ynysoedd oddi ar arfordir Dinbych-y-pysgod y gallwch fynd ati ar droed. Er ei bod hi’n fach, mae Ynys y Santes Catherine yn llawn hanes, ac yn gartref i gaer Palmerston a safle gynnau rhag awyrennau o’r Ail Ryfel Byd. Mae modd cyrraedd yr ynys o Draeth y Castell pan fydd y llanw allan.