Ar gael ar gyfnodau tawelach yn ystod y dydd, mae tocynnau cyfnodau tawelach yn cynnig gwerth am arian a hyblygrwydd gwych.

Cewch eu prynu cyn diwrnod y daith neu yn syth cyn cychwyn ar eich taith. Neu'n well byth, gallwch eu defnyddio unrhyw bryd ar benwythnosau a gwyliau banc.

Ac os ydych chi'n chwilio am hyd yn oed mwy o werth am arian, mae gennym ni docynnau cyfnodau tawelach fyth, sydd ychydig yn llai hyblyg ac yn cynnig mwy o arbedion.

Mae defnyddio eich tocynnau cyfnodau tawelach a chyfnodau tawelach fyth yn dibynnu ar eich taith a'ch diwrnod teithio. Mae modd cael rhagor o wybodaeth a dewisiadau tocynnau drwy ddefnyddio ein teclyn archebu ar-lein neu’r ap.

Yn gyffredinol, mae cyfnodau tawelach yn dechrau am 09:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener mewn dinasoedd a threfi mawr, ac am 09:00 ym mhobman arall. Mae cyfyngiad yn berthnasol i tocyn Sengl, y tocyn taith allanol ac y tocyn dychwelyd, a bydd tocynnau cyfnodau tawelach fyth (sef Super Off-Peak) hefo cyfyngiadau pellach. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriwch https://www.nationalrail.co.uk/ticket-types/ticket-validity-finder/ i wirio eich tocyn ar gyfer eich taith ddewisol.

 

Pa drenau sydd ar Gyfnodau Tawelach?

Yn gyffredinol, mae tocynnau Cyfnodau Tawelach ar gael ar gyfer trenau yn rhannau tawelach dyddiau’r wythnos, y tu allan i oriau brig. Mae hyn yn gwneud Cyfnodau Tawelach yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n teithio y tu allan i’r oriau cymudo, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd a phrisiau hyd yn oed yn rhatach.

 

Tocyn Unffordd Cyfnodau Tawelach a Thocyn Unffordd Undydd Cyfnodau Tawelach

Mae’n ddilys ar gyfer taith unffordd rhwng dwy orsaf ar y dyddiad sydd ar y tocyn.

 

Tocyn Dwyffordd Undydd ar Gyfnodau Tawelach

Mae’n ddilys ar gyfer taith ddwyffordd rhwng dwy orsaf ar y dyddiad sydd ar y tocyn.

Yn ddilys ar gyfer Teithio rhwng 09:30-16:00 ac o 18:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Tocyn Dwyffordd ar Gyfnodau Tawelach

Mae’n ddilys ar gyfer taith ddwyffordd rhwng dwy orsaf. Mae’r rhan gyntaf yn ddilys ar gyfer teithio ar y dyddiad a ddangosir ar docyn. Mae’r rhan o’r tocyn sydd ar gyfer y daith yn ôl yn ddilys am un mis calendr o’r dyddiad cychwyn sydd ar y tocyn.

 

Tocyn Min Nos Dwyffordd y Cymoedd

Mae Tocynnau Min Nos Dwyffordd y Cymoedd (VER) yn werth gwych am arian ar gyfer teithio ar ôl yr oriau brig ac yna dychwelyd y diwrnod canlynol.

  • Yn ddilys i deithio ar y dyddiad sydd ar y tocyn.
  • Mae’n ddilys ar gyfer cychwyn eich taith allan ar unrhyw drên ar ôl 18:30 bob dydd.
  • Mae’r daith yn ôl yn ddilys hyd at ac yn cynnwys y trên cyntaf sy’n gadael y bore canlynol yn ôl i fan cychwyn y tocyn. Ddim yn ddilys ar gyfer unrhyw gyrchfan arall.
  • Mae modd torri teithiau oni nodir yn wahanol. 
  • Mae modd prynu’r tocyn hwn ymlaen llaw neu yn syth cyn teithio.
  • Gallwch newid eich cynlluniau teithio unrhyw bryd o fewn dilysrwydd y tocyn heb orfod talu pris ychwanegol. 
  • Mae ad-daliad llawn ar gael os byddwch chi’n dychwelyd y tocyn heb ei ddefnyddio i’r man prynu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r tocyn i ben.

Mae ar gael drwy bob sianel adwerthu, gan gynnwys ar ein ap, ar-lein neu drwy ein swyddfeydd tocynnau.

 

Ble mae modd prynu tocyn Cyfnodau Tawelach

Mae modd prynu tocyn trên Cyfnod Tawelach ar-lein, drwy’r ap, ac o beiriant tocynnau neu swyddfa docynnau.

Rydym yn cynnig yr opsiwn i chi ledaenu taliadau dros 3 rhandaliad gyda Paypal Pay in 3 os ydych chi'n gwario dros £30. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn hwn ar gael ar y sgrin talu.

 

Sut alla i wneud cais i newid fy nhaith?

  • Ar-lein - Gallwch newid eich tocyn Cyfnod Tawelach drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif a dewis "Statws archeb a cheisiadau am ad-daliad". Dewiswch eich archeb a dilynwch y camau i newid eich tocyn.
  • Dros y ffôn - Ffoniwch ni ar 03333 211 202
  • Yn yr orsaf - Mae modd cwblhau’r broses hon yn y rhan fwyaf o orsafoedd hefyd. Yn yr orsaf, bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw wahaniaeth ym mhrisiau tocynnau ac efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi weinyddol hefyd, yn dibynnu ar delerau ac amodau’r tocyn a brynwyd.