Mae plant yn mynd am ddim ar ein trenau

Gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar unrhyw adeg ar ein gwasanaethau. Gall rhai dan 16 oed deithio am ddim yn ystod oriau brig yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn.

 

Sut mae'n gweithio

  • Dim ond yn y dosbarth Safonol y mae teithio am ddim i blant ar gael.
  • Gall hyd at ddau o blant deithio am ddim, fesul oedolyn sy'n talu. Rhaid i oedolion gael tocyn i bob plentyn cyn teithio.
  • Gellir prynu tocynnau oedolion cyn y diwrnod teithio.
  • Mae plant dan 5 yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail.
  • Mae plant 5-16 oed yn teithio am ddim ar drenau TrC yn unig.

 

Ble i brynu

Mae tocynnau teithio am ddim i blant ar gael o swyddfa docynnau’r orsaf yn unig neu ar y trên gan arweinydd.

 

Yn ddelfrydol ar gyfer diwrnodau allan

Mae cymaint i’w ddarganfod ar ein rhwydwaith. Rydyn ni wedi dewis ychydig o bethau i gadw'r plant yn brysur ar y trên a phan fyddwch chi allan yn crwydro'r rhwydwaith.

 

Cardiau rheilffordd i deuluoedd a phobl ifanc

Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau

Gyda Cherdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau gallwch gael 1/3 oddi ar docynnau trên i oedolion a 60% oddi ar docynnau plant i deithio ledled Prydain. Ewch i familyandfriends-railcard.co.uk i weld faint y gallwch chi ei arbed.

 

Teithio gyda phobl ifanc 16-17 oed?

Mae Arbedwr 16-17 yn rhoi 50% oddi ar docynnau Tymor Safonol, Allfrig, Ymlaen Llaw ac Unrhyw Amser i bawb 16 a 17 oed.

 

Cerdyn rheilffordd pobl ifanc

Cerdyn Rheilffordd 16-25

Os ydych rhwng 16 a 25 oed, (ac o bosibl os ydych mewn addysg amser llawn) gallwch gael 1/3 oddi ar gost eich tocyn. Gallwch hefyd nawr gael gostyngiadau ar docynnau TrC yn Gyntaf a Dosbarth Safonol Advance hefyd. Ewch i 16-25railcard.co.uk i ddarganfod mwy.