Prynu tocynnau trên gyda TrC

Prynwch eich tocynnau trên ar-lein neu ar ein ap hwylus. Dydyn ni ddim yn codi ffioedd archebu ac rydyn ni bob amser yn ceisio dod o hyd i’r pris rhataf sydd ar gael i chi.

 

Cynlluniwch eich taith gyda ni

Mae’n hawdd cynllunio eich taith gyda ni. Gallwch brynu eich tocyn ar ein gwefan neu ar yr ap, edrych i weld a oes unrhyw beth yn tarfu ar eich llwybr, a defnyddio ein gwiriwr capasiti i weld pa mor brysur mae disgwyl i’ch trên fod. Gallwch brynu amrywiaeth o docynnau sy’n addas i’ch anghenion teithio - o docynnau Advance i docynnau Multiflex. Gall ein cardiau rheilffordd gynnig gostyngiadau gwych i chi.