• Cofiwch y dyddiad
    • Cyngherddau yn Stadiwm Principality, Caerdydd:

      • Dydd Sul 5 Mai 2024 - Bruce Springsteen
      • Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024 - P!NK
      • Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024 - Taylor Swift
      • Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024 - Foo Fighters
      • Dydd Gwener 9 Awst | Billy Joel
    • Pêl-droed

      • Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2024 | Dinas Caerdydd v Southampton
      • Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 | Dinas Caerdydd v Middlesborough
      • Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 | Wrecsam v Stockport
    • Digwyddiadau eraill yn Stadiwm Principality, Caerdydd:

      • Dydd Sadwrn 17 Awst 2024 | Speedway

 

Pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality, mae gennym system giwio ar waith i ganiatáu i deithwyr wneud eu taith yn ôl yn ddiogel. Mae llwybrau Hygyrchedd pwrpasol ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth ychwanegol i deithio.

Ar ddiwrnodau digwyddiadau gofynnwn i deithwyr sydd angen cymorth ychwanegol wneud eu hunain yn hysbys i stiward a all eu cyfeirio at y Llwybrau Hygyrchedd pwrpasol. Mae’n bosibl i deithwyr sydd angen defnyddio’r Llwybr Hygyrch ddod gyda hyd at dri gofalwr neu aelod o’r teulu.

Sign displayed at Cardiff Central Entrance at Cardiff Central Ramp at Cardiff Central

Mae'r llwybrau Hygyrchedd hefyd yn adnodd defnyddiol i'r rhai ag anableddau cudd. Mae diwrnodau digwyddiadau yn dod â thorfeydd a daw gorsaf Caerdydd Canolog yn lleoliad prysur iawn. Mae'r llwybr Hygyrch yn fan diogel, wedi'i reoli, lle mae staff wrth law i roi help llaw ac mae'r systemau ciwio yn rheoli llif teithwyr yn ddiogel ac yn effeithlon ar y platfformau. Gall staff sydd wedi'u lleoli ar y llwybrau Hygyrchedd hefyd eich helpu i ddod o hyd i doiledau a'ch helpu i gynllunio taith.

 

Lleoliadau toiledau hygyrch yng Nghaerdydd Canolog

  • Platfform 8 (mynediad allwedd RADAR)
  • Isffordd ddwyreiniol (mynediad allwedd RADAR)
  • Mae toiledau symudol hygyrch ar gael yng nghefn yr orsaf, ar y Sgwâr Canolog rhwng adeilad y BBC ac adeilad y Brifysgol oddi ar Stryd Wood ac ym maes parcio Glan yr Afon ger platfform 0.

 

Os hoffech gael cymorth i gynllunio’ch taith cyn i chi fynychu digwyddiad yn Stadiwm Principality, cysylltwch â ni drwy WhatsApp:

07790 952 507

Dydd Llun i Ddydd Gwener: 07:00 - 20:00
Dydd Sadwrn: 08:00 - 20:00
Dydd Sul: 11:00 - 20:00

 

I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Hygyrch neu i archebu cymorth ymlaen llaw, ewch i'n tudalen Teithio â Chymorth Archebu.