Gwybodaeth am deithio hygyrch

Gellir dod o hyd i wybodaeth am deithio hygyrch hefyd ar wefan eich gweithredwr bysiau neu reilffyrdd, neu awdurdod lleol. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol os oes angen rhagor o fanylion arnoch i'ch helpu i gynllunio'ch taith.

 

Ydych chi'n defnyddio sgwter symudedd?

Mae Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr wedi cyhoeddi canllawiau os ydych yn defnyddio sgwter symudedd ac yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Dolenni defnyddiol.

 

A oes gennych nam ar eich golwg?

Mae gwefan RNIB Cymru yn cynnwys canllawiau os ydych yn ddall neu'n rhannol ddall ac yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Dod o hyd i doiledau hygyrch

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am doiledau hygyrch ar ein trenau ac yn ein gorsafoedd.

Pa mor hygyrch yw ein trenau

Pa mor hygyrch yw ein gorsafoedd

Os ydych chi'n teithio gyda chwmni trenau arall, ewch i'w gwefan i gael gwybodaeth am hygyrchedd ar eu trenau. O ran y gorsafoedd, ewch i wefan National Rail a nodwch enw neu god tair llythyren y gorsafoedd rydych chi'n teithio iddynt i gael manylion y cyfleusterau sydd ar gael.

Gallwch ddod o hyd i leoliadau ac amseroedd agor yr holl doiledau cyhoeddus yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru. Gall y Map Toiledau Cenedlaethol hefyd ddweud wrthych pa doiledau sydd â chyfleusterau hygyrch.

Os oes gennych anabledd, gall y Cynllun Allweddol Cenedlaethol ddarparu mynediad annibynnol i doiledau cyhoeddus dan glo ledled y DU. Gellir dod o hyd i doiledau sydd â chloeon NKS mewn llawer o orsafoedd bysiau a threnau.

 

Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-argyfwng

Mae help ar gael os ydych yn byw yng Nghymru ac yn methu mynychu apwyntiad meddygol di-argyfwng gan ddefnyddio eich cludiant eich hun. Cliciwch ar y ddolen isod i  wirio a ydych chi'n gymwys.

Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-argyfwng (NEPTS) - Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

Dolenni defnyddiol eraill