Wrexham

Teithio ar drên i Wrecsam

Neidiwch ar y trên i Wrecsam a darganfod beth sydd gan ein dinas i'w gynnig.

Mae yno siopau traddodiadol, marchnadoedd dan do hanesyddol, tirnodau nodedig a diwylliant cyfoethog. Mae’n gartref i glwb pêl-droed hynaf Cymru ac eglwys ogoneddus San Silyn, gyda’i chysylltiadau â Phrifysgol Iâl. Yn fwy na dim, fe gewch groeso cynnes Cymreig.

Mae gan Wrecsam ddaearyddiaeth amrywiol.  Os gallwch chi aros am rai dyddiau, fe welwch fod y canolbwynt trefol yn eistedd yn gyffyrddus ger golygfeydd godidog a chefn gwlad hudolus.  Mae rhan o Wrecsam yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig - dewch draw i ymweld - cewch fodd i fyw.

 

Pethau i’w gweld

Wrexham fireworks

Tŷ Pawb - Canolfan gelf Wrecsam, oriel, marchnad dan do, cwrt bwyd - mae'n fwrlwm o weithgareddau ac yn lle y mae'n rhaid i chi ymweld ag ef.

Amgueddfa Wrecsam - Yn fuan bydd yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru, mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Wrecsam a’i chymunedau - o’r cyn-hanes hyd heddiw.

Clwb Pêl-droed Wrecsam, y Cae Ras - Mae yna dipyn o wefr Hollywood yn bodoli yma ar hyn o bryd - os ydych chi'n teithio i weld y pêl-droed, mae’r orsaf drenau nepell o’r Cae Ras.

Eglwys San Silyn - Gorffwysfa Elihu Yale, un o sylfaenwyr Prifysgol Iâl.  Ymlwybrwch trwy'r ddinas o'r orsaf drenau ac fe welwch yr adeilad anhygoel hwn.  Mae croeso cynnes yn aros amdanoch.

Chwilio! - Canolfan ddarganfod gwyddoniaeth Wrecsam, yn wir canolfan Gogledd Cymru. Yn frith o arddangosfeydd rhyngweithiol, arddangosiadau hwyliog a phrofiadau anhygoel - mae'n berffaith ar gyfer diwrnod o hamddena i'r teulu.

Dôl yr Eryrod - Siopau, sinema, bowlio a bwyd - canolbwynt adloniant, dim ond 10 munud ar droed o’r orsaf drenau.

Pobtcysyllte

Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte Safle Treftadaeth y Byd - Fe welwch fod yr orsaf fysiau dim ond taith gerdded fer o'r orsaf drenau, lle gallwch ddal bws i deithio ychydig filltiroedd y tu allan i ganol y ddinas i ddod o hyd i'n Safle Treftadaeth y Byd anhygoel. Wedi’i chwblhau ym 1805, mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a ddyluniwyd gan Thomas Telford a William Jessop, yn olygfa gwerth ei gweld. Ynghyd â Thraphont Ddŵr y Waun, mae’n rhan o 11 milltir o olygfeydd syfrdanol o’r gamlas. Cerddwch drosti neu ewch ar gwch - fe welwch pam y'i gelwir yn 'nant yn yr awyr'.

 

2 safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae'r ddau safle - Neuadd Erddig a Chastell y Waun yn deithiau bws byr o ganol dinas Wrecsam.  Yno, mae golygfeydd godidog, hanes, teithiau cerdded a hwyl i'r teulu cyfan.  Mae Erddig yn daith bws fer i ffwrdd. Os ydych chi'n ymweld a'r castell, mae trenau rheolaidd i'r Waun.