

Rheilffyrdd
Bydd ein huchelgeisiau tymor hir ar gyfer rheilffyrdd yn canolbwyntio ar ymestyn y rhwydwaith ymhellach i’n cymunedau gwledig; gan wella mynediad at swyddi a gwasanaethau ar gyfer rhai o’n trefi a’n pentrefi mwyaf anghysbell.
Byddwn hefyd yn ceisio trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd er mwyn datgarboneiddio a gwella effaith amgylcheddol ein trenau yn Ne Orllewin Cymru.

Bws
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Leol a’r Gweithredwyr Bysiau Preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau ledled Cymru a byddwn yn ymdrechu i wneud teithio ar fysiau yn ddull teithio deniadol ac effeithlon ar draws y rhanbarth.
Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno tocynnau integredig sy’n caniatáu system docynnau fwy di-dor a llai cymhleth i Gymru.

Trafnidiaeth Integredig
Byddwn yn parhau i wella’r integreiddiad rhwng bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol drwy gyfrwng llwybrau teithio llesol a siwrneiau lleol.
Bydd yr integreiddio hwn yn digwydd ar sawl ffurf, o wella’r cyfleusterau parcio beiciau mewn gorsafoedd trên a bws, i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ymateb i’r galw, a thocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gwasanaethau bysiau a threnau.