Mae’n hawdd mynd o Gaer i Fanceinion ar y trên. Mae’r gwasanaethau’n rhedeg bob 30 munud, a dim ond ychydig dros awr y mae’n ei chymryd i fynd yno. Gallwch deithio ar ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i chi gyda’n tocynnau Unrhyw Bryd hyblyg. Does dim angen newid trenau, felly gallwch chi eistedd yn ôl ac ymlacio.

Mae Manceinion yn ddinas fodern, gosmopolitan sydd â diwylliant bywiog. Mae’r ddinas hefyd yn dathlu gorffennol diwydiannol dramatig. Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, cafodd y dref ei hailddyfeisio fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a manwerthu o’r radd flaenaf.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Mae gan Fanceinion lawer i’w gynnig os ydych chi’n bwriadu trefnu trip am y diwrnod neu benwythnos i ffwrdd, gyda chalendr llawn o atyniadau a gwyliau drwy gydol y flwyddyn. Mwynhewch y Farchnad Nadolig hudolus, y bwytai, orielau ac amgueddfeydd o’r radd flaenaf, a digon o gyfleoedd siopa i’ch cadw’n brysur am y diwrnod cyfan. Dyma’r lle perffaith i gael seibiant.

Mae canolfannau Arndale a Trafford o safon debyg i Oxford Street yn Llundain o ran siopau dylunwyr, gyda chanolfan Trafford yn cynnwys sinema IMAX, Legoland Discovery a’r ganolfan Sea Life wych. Mae sawl lle i fwynhau tamaid i’w fwyta hefyd, felly dyma’r lle delfrydol i fwynhau diwrnod allan gyda’r teulu cyfan. Mae gan Fanceinion rywbeth i bawb, p’un a ydych chi'n teithio yno am resymau busnes neu bleser.

 

Trenau a thocynnau o Gaer i Fanceinion

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau tocynnau ar gael, wedi eu cynllunio i arbed arian a thrafferth i chi. Drwy lawrlwytho’r ap hawdd ei ddefnyddio, gallwch chi ddod o hyd i’r bargeinion gorau ar docynnau Advance a’n holl docynnau rhataf sydd ar gael. Gallwch chi hefyd weld amserlenni, prynu tocynnau a defnyddio ein gwiriwr capasiti i weld pa mor brysur y mae eich trên yn debygol o fod, a hynny er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith.

 

Ewch ar y trên gyda TrC

Rydyn ni’n rhoi’r teithiwr wrth galon pob taith. Mae mynd ar y trên yn golygu eich bod chi’n cyrraedd yn teimlo’n hamddenol ac yn barod i grwydro, heb orfod poeni am gael eich dal mewn traffig neu ddod o hyd i le parcio. Byddwch chi hefyd yn cael Wi-Fi am ddim ar y trên.

 

Pa fathau o docynnau trên alla i eu cael?

Mae gennym ni sawl math gwahanol o docynnau ar gael, gan gynnwys tocynnau Advance a thocynnau unrhyw bryd, gyda phrisiau gostyngol ar gael ar gyfer y tocynnau hynny.