Trafnidiaeth Cymru Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2025
Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei gynhyrchu i roi trosolwg o ffigurau swyddogol y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd wedi’u cyfrifo ar 5 Ebrill 2025. Mae Grŵp Trafnidiaeth Cymru wedi gwrthdroi’r cynnydd yn y bwlch cyflog canolrifol y llynedd. Mae mwy o fenywod nawr yn y chwarteli cyflog uwch. Fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog canolrifol ar gyfer Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a’r bwlch cyflog canolrifol cyfun ar gyfer y ddau sefydliad wedi ehangu.