| X: @tfwrail | X: @transport_wales |
| WhatsApp: 07790 952 507 | |
| Instagram: @transport_wales | |
| YouTube | Messenger |
Mae ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro o 07:00 - 20:00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a 08:00 - 20:00 ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul.
Os gwelwch yn dda gofynnwch gwestiynau, rhowch adborth ar ein gwasanaethau, gwnewch awgrymiadau, a darganfyddwch sut rydym yn gwella trafnidiaeth yng Nghymru a'r gororau.
O bryd i’w gilydd, byddwn yn adolygu'r polisi hwn felly cadwch lygad ar y dudalen hon i sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.
Rydym yn falch i hyrwyddo’r Gymraeg ac i ddathlu diwylliant Cymru ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein diweddariadau'n cael eu rhannu’n ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf, neu fel negeseuon ar wahân lle rhoddir y fersiwn Gymraeg cyn y Saesneg. Cofiwch na fydd teclynnau cyfieithu awtomatig a ddefnyddir gan rai llwyfannau yn adlewyrchu cynnwys ein post gwreiddiol yn gywir.
Am gwyno?
Er ein bod yn croesawu adborth, nid ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yw’r lle i gwyno yn ffurfiol. Ceir gwybodaeth am sut i gwyno yma.
Rydym yn parchu preifatrwydd ein cydweithwyr, felly ni fyddwn yn trafod cwynion amdanynt ar gyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi eisiau rhoi adborth ar unrhyw un o'n cydweithwyr, cysylltwch â Chysylltiadau Cwsmeriaid. Bydd pob cwyn yn cael ei ymchwilio'n briodol, a bydd ymateb yn cael ei anfon atoch.
Rheolau
Er mwyn annog amgylchedd ar-lein diogel, croesawgar a pharchus, mae'r rheolau hyn yn berthnasol ar gyfer ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol:
- Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth gwahaniaethol, hiliol, rhywiaethol, camdriniol, anweddus, ymfflamychol neu anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys sylwadau wedi'u cyfeirio at ein cydweithwyr neu unrhyw un arall.
- Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth difenwol neu ddifrïol am unigolyn na sefydliad arall.
- Dylech osgoi siarad am achosion llys agored ac ymchwiliadau’r heddlu.
- Peidiwch â defnyddio gwaith a warchodir dan gyfraith hawlfraint heb ganiatâd y perchennog.
- Peidiwch â defnyddio’r fforwm hwn i hunan-hyrwyddo nac i gael budd masnachol.
Efallai y bydd defnyddwyr sy'n torri ein rheolau yn cael rhybudd. Mewn rhai achosion, byddwn yn dileu diweddariadau ar unwaith, yn blocio defnyddwyr ac yn adrodd y neges i'r cyfrwng cymdeithasol penodol. Pe bawn ni’n ystyried bod y diweddariad, neges uniongyrchol neu gyfrif yn dreisgar neu'n fygythiol, efallai y byddwn yn ei adrodd i'r heddlu.
Rhowch wybod i ni os gwelwch chi sylwadau sy'n torri ein rheolau.
Ni fydd gan gyfrifon sydd wedi'u blocio oherwydd eu bod wedi torri ein polisi cyfryngau cymdeithasol yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Byddwch yn ymwybodol y gallai hyn eich atal rhag cael mynediad at wybodaeth fyw am ein gwasanaethau neu gael diweddariadau taith ar gyfryngau cymdeithasol.
Cefnogwch cyfryngau cymdeithasol caredig
- Ceisiwch fod yn deg, yn onest ac yn gywir.
- Parchwch farn ac enw da pobl eraill.
- Peidiwch â rhannu ffotograffau o gydweithwyr heb eu caniatâd.
- Byddwch yn garedig wrth dynnu sylw at gamgymeriad neu gamddehongliad rhywun arall.
- Peidiwch ag anfon sbam i bobl eraill - mae’n ei gwneud hi’n anodd cael sgwrs go iawn.
- Cofiwch fod ein negeseuon ni wedi’u hysgrifennu gan ein cydweithwyr, sydd yn bobl go iawn.
Dilynwch ni ar X
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n tudalen X swyddogol: @tfwrail
Rydym ond yn defnyddio X fel sianel ddarlledu ar gyfer rhannu gwybodaeth cwsmeriaid. Pe baech yn chwilio am help gyda'ch taith, cysylltwch â ni ar WhatsApp (07790 952 507) neu Messenger.
Yr hyn a welwch chi:
- Gwybodaeth teithio, gan gynnwys diweddariadau am ddigwyddiadau a allai effeithio ar eich taith.
- Gwybodaeth am waith peirianneg arfaethedig a newidiadau gwasanaeth.
- Manylion digwyddiadau (megis gemau rygbi) gan gynnwys ciwiau a chau meysydd parcio.
Dilynwch ni ar Facebook
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n tudalen Facebook swyddogol: https://www.facebook.com/TfWTrafnidiaethCymru
Nid yw ein tudalen Facebook yn cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid ‘byw’. Os ydych chi'n chwilio am help gyda'ch taith, cysylltwch â ni ar Messenger.
Yr hyn a welwch chi:
Rydym yn croesawu sylwadau gan ein dilynwyr. Byddwn yn ymuno â'r sgwrs pan fod gennym bethau pendant i’w cyfrannu. Ni allwn ymateb i bob sylw a dderbyniwn ar Facebook. Mae ein tîm yn darllen pob neges ac yn rhannu themâu neu awgrymiadau defnyddiol.
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu sylwadau neu negeseuon sy'n ffug, difenwol neu’n sarhaus.
Dilynwch ni ar Instagram
Mae'r rheolau a'r polisi hwn yn berthnasol i dudalen Instagram Trafnidiaeth Cymru @transport_wales
Nid ydym yn defnyddio Instagram ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid ‘byw’. Os ydych chi'n chwilio am help gyda'ch taith, cysylltwch â ni ar WhatsApp (07790 952 507) neu Messenger.
Yr hyn a welwch chi:
- Lluniau
- Rholion ffilm neu ‘riliau’
- Fideos
- Storiâu
- Cynnwys dylanwadwyr
- Cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr
Rydyn ni’n defnyddio’r sianel hon i ymgysylltu a’n dilynwyr a hefyd wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys, os hoffech chi gael eich cynnwys yna tagiwch ni, neu defnyddiwch ein hashnod #TrafnidiaethCymru
Dilynwch ni ar LinkedIn
Mae'r rheolau a'r polisi hwn yn berthnasol i dudalen LinkedIn Trafnidiaeth Cymru: https://linkedin.com/company/transport-for-wales
Nid ydym yn defnyddio LinkedIn ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid byw. Os ydych chi'n chwilio am help gyda'ch taith, cysylltwch â ni ar WhatsApp (07790 952 507) neu Messenger.
Yr hyn a welwch chi:
- Cyfleoedd gwaith TrC.
- Ein newyddion, gan gynnwys prosiectau allweddol i wella trafnidiaeth yng Nghymru a'r gororau.
- Dathliad o'n diwylliant, ein cyflawniadau a chyflawniadau ein partneriaid.
Dilynwch ni ar YouTube
Mae'r rheolau a'r polisi hwn yn berthnasol i dudalen YouTube Trafnidiaeth Cymru: https://www.youtube.com/channel/UClz-0qCZXUzN40XUuw6545Q
Nid ydym yn defnyddio YouTube ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid. Pe baech chi'n chwilio am help gyda'ch taith, cysylltwch â ni ar WhatsApp (07790 952 507) neu Messenger.
Mae ein sianel YouTube yn cynnwys fideo ffurf hir, podlediadau a fideos sy’n berthnasol i’n datganiadau i'r wasg.