Gweithio gyda’n partneriaid bysiau i ddarparu gwell gwasanaethau 

Rydyn ni’n gweithio gyda gwahanol bartneriaid bysiau ar draws Cymru i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n gallu diwallu anghenion ein cwsmeriaid.

 

fflecsi

Mae fflecsi yn wasanaeth newydd a chyffrous rydyn ni’n ei ddarparu mewn partneriaeth â chynghorau lleol a gweithredwyr bysiau. Mae’n ffordd wahanol a mwy hyblyg o deithio dros bellteroedd llai. Mae bysiau fflecsi yn eich codi ac yn eich gollwng mewn ardal gwasanaeth yn hytrach nag mewn safleoedd bysiau sefydlog, gan newid eu llwybrau i’ch cyrraedd chi.

fflecsi.cymru

 

TrawsCymru

Rydyn ni’n gweithio gyda TrawsCymru i wella ac ehangu gwasanaethau bysiau pellter hir Cymru, gan eu gwneud yn gyflymach, yn haws eu defnyddio ac yn fwy ymatebol i anghenion ein cymunedau.

Er enghraifft, rydyn ni’n arbed amser ac arian i chi wrth deithio rhwng Aberystwyth a chyrchfannau yn Ne Cymru. Gallwch nawr brynu un tocyn ar gyfer eich taith ar ein gwasanaethau rheilffyrdd ac ar fysiau TrawsCymru T1 a T5.

Mae ap TrawsCymru newydd hefyd sy’n dangos yr holl lwybrau, gwerthu tocynnau a chyfrifo eich arbedion carbon.

Tocynnau integredig gyda TrawsCymru

 

PlusBus

Gallwch dalu am eich teithiau ar y trên a’r bws gyda’i gilydd gyda PlusBus. Mae’n docyn bws am bris gostyngedig (fel cerdyn rheilffordd) er mwyn i chi allu teithio faint fynnwch chi ar y bws o gwmpas holl ardal y dref neu’r ddinas sy’n cael ei gwasanaethu gan y rheilffordd. Rydych yn prynu PlusBus gyda’ch tocyn trên.

PlusBus

 

Masnachfraint

Rydyn ni’n helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion i newid y ffordd mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu llywodraethu drwy fasnachfraint leol. Byddai gweithredwyr bysiau yn darparu gwasanaethau dan gontract, ar ran awdurdodau lleol. Byddai hyn yn rhoi mwy o reolaeth i gynghorau lleol dros amserlenni, llwybrau a phrisiau bysiau, gan olygu eu bod yn diwallu anghenion lleol yn well.

Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn