Submitted by content-admin on

Cwestiynau cyffredin

A oes angen i mi ddarparu manylion personol i ddefnyddio'ch Wi-Fi?

Mae’n rhaid i chi gytuno i’r Telerau Defnyddio Wi-Fi pan fyddwch yn cysylltu, ond nid oes angen eich manylion personol ar TrC i ddefnyddio ein Wi-Fi mewn gorsafoedd neu ar drenau. Nid ydym yn gofyn i chi fewngofnodi i Facebook, Google ac ati, na nodi unrhyw wybodaeth ariannol i gael mynediad i'n gwasanaeth Wi-Fi.

 

Alla i ddefnyddio Rhwydwaith Preifat Rhithwir?

Gallwch. Rydym yn argymell defnyddio cleient Rhwydwaith Preifat Rhithiwr er mwyn cael mynediad diogel at fewnrwyd cwmnïau a gweinyddion post. Gwiriwch fod Rhwydwaith Preifat Rhithiwr eich cwmni’n cefnogi NAT Traversal ac yn caniatáu sawl cysylltiad o un cyfeiriad IP. Mewngofnodwch drwy dudalen y porth cyn defnyddio’ch Rhwydwaith Preifat Rhithiwr.

 

Pa gyflymderau alla i eu disgwyl?

Er nad ydym yn gallu sicrhau cyflymder lleiafrifol mewn gorsafoedd ac ar drenau, ein bwriad yw darparu cyflymder o ~1MB/s. Caiff cyflymder y Wi-Fi ei ddylanwadu gan nifer y defnyddwyr sydd ar-lein a’r signal sydd ar gael ar ein trenau.

 

A alla i ddefnyddio mwy nag un ddyfais?

Gallwch. Bydd angen ichi ddilyn y canllawiau sydd ar ben y dudalen ar gyfer pob dyfais.

 

A oes unrhyw gyfyngiadau data?

Wi-Fi yn yr orsaf - y Polisi Defnydd Teg yw 20GB y ddyfais. Unwaith ichi gyrraedd hyn, bydd cyflymder y cysylltiad yn cyfyngu. Mae’r polisi defnydd o 20GB yn adnewyddu bob mis.

Wi-Fi ar y trên - y Polisi Defnydd Teg yw 5MB y ddyfais. Unwaith ichi gyrraedd hyn, bydd cyflymder y cysylltiad yn cyfyngu i 256KB/s. Mae’r polisi o 50MB yn adnewyddu ar ôl pedair awr.

 

Pam ydy rhai gwefannau wedi’u rhwystro?

Rydym yn rhwystro rhai categorïau o draffig i wefannau i ganiatáu gwell gyflymder cyflawn a phrofiad pori fwy diogel i gwsmeriaid o bob oedran. Os nad ydych yn teimlo y dylai rhyw wefan fod wedi cael ei rhwystro, siaradwch ag aelod o staff TrC a all adolygu hyn.

 

A oes yna leoliadau/trenau lle nad oes Wi-Fi am ddim?

Mae yna nifer fach o drenau Dosbarth 153 sydd ddim yn darparu Wi-Fi. Mae’r rhain yn gweithredu ar lwybrau Llinell y Ddinas a Bae Caerdydd.

Mae Wi-Fi ar gael ym mwyafrif helaeth o’n gorsafoedd yng Nghymru.

 

Sut alla i dderbyn cymorth?

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gysylltu neu gofnodi problem gyda’r Wi-Fi, siaradwch ag aelod o staff TrC ar drên neu mewn gorsaf. Fel arall, cysylltwch â ni ar Trydar @tfwrail neu siaradwch ag aelod o’r Tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar WhatsApp 07790 952 507 o ddydd Llun i ddydd Gwener 07:00 - 20:00, ddydd Sadwrn 08:00 - 20:00 a ddydd Sul 11:00 - 20:00.