Mae ein Ranger Cylch Calon Cymru yn caniatáu i chi deithio ar hyd Rheilffordd Calon Cymru ar lwybr cylchol dros 1 neu 2 ddiwrnod.

 

Prisiau

  Oedolyn Plentyn Cerdyn Rheilffordd
Day Ranger Cylch Calon Cymru £45 £22.50 £29.70
Two Day Ranger Cylch Calon Cymru £65 £32.50 £42.90

 

Ble mae prynu tocyn Calon Cymru

Prynwch docyn Ranger Cylch Calon Cymru 1 neu 2 Ddiwrnod o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Ranger Cylch Calon Cymru 1 neu 2 Ddiwrnod gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru. I brynu ymlaen llaw, ffoniwch 08448 560 688 neu e-bostiwch y tîm - tms@tfwrail.wales.

 

Map

Map Rheilfford Calon Cymru - Tocyn Ranger

 

Telerau ac amodau

  • Mae tocyn Day Ranger Cylch Calon Cymru yn cynnig taith gylchol i’r naill gyfeiriad o amgylch y gylched rhwng Caerdydd Canolog - Craven Arms - Amwythig - Llandrindod - Llanelli - Abertawe - Caerdydd Canolog ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Gall y daith gychwyn mewn unrhyw orsaf ar y gylched benodedig. Yn ddilys dros 1 neu 2 ddiwrnod.
  • Yn ddilys ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
  • Mae'r gostyngiad yn berthnasol i’r Cardiau Trên canlynol: Dau Berson (fesul Oedolyn), 16-25, 26-30, Pobl Hŷn, Pobl Anabl a Gyn-filwyr.

  • Prynwch docyn Ranger Cylch Calon Cymru 1 neu 2 Ddiwrnod o swyddfa docynnau eich gorsaf leol.

  • Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Ranger Cylch Calon Cymru 1 neu 2 Ddiwrnod gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.

  • Gellir cael ad-daliad am docynnau heb eu defnyddio, ond rhaid talu ffi weinyddu.

  • Pris yn ddilys hyd at 31 Rhagfyr 2024.