Mae prisiau tocynnau wedi'u rhewi tan fis Mawrth 2027
Ydych chi’n poeni am brisiau tanwydd yn cwympo oddi ar y cledrau? Bydd prisiau ein tocynnau trên yn aros ar y trywydd iawn tan fis Mawrth 2027. Gadewch yr ansicrwydd ar ôl a daliwch y trên yn lle. Mae'n dda i'r blaned ac yn dda i'ch poced hefyd.
Arbedwch arian ar gyfer y pethau pwysig.
Arbedwch hyd yn oed yn fwy gyda thalu wrth fynd
Ydych chi'n gwneud teithiau lleol, rheolaidd (fel cymudo) ar Metro De Cymru? Rhowch gynnig ar dalu wrth fynd am deithiau trên mwy fforddiadwy, diolch i'n capiau prisiau dyddiol ac wythnosol. Po fwyaf y byddwch chi'n ei ddefnyddio, y mwyaf y gallwch chi arbed.
Mae prisiau talu wrth fynd fel arfer yn rhatach na phrisiau safonol 'unrhyw bryd'. Os bydd prisiau safonol byth yn rhatach, byddwn yn sicrhau bod prisiau talu wrth fynd yn cyfateb i’r rhain, fel eich bod chi bob amser yn talu'r pris isaf posibl.
Telerau ac amodau
**Mae prisiau tocynnau trên TrC wedi'u rhewi am 12 mis o 01/03/2026 tan 01/03/2027.
Gweler ein telerau ac amodau talu wrth fynd.