Rydyn ni’n cynnig lleoliadau a phrofiad gwaith i’ch helpu i ennyn cipolwg gwerthfawr o weithio gyda ni ac i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer eich gyrfa.

Beth yw profiad gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru?

Mae profiad gwaith yn golygu ennill gwybodaeth a sgiliau drwy weithio gyda ni yn y tymor byr (hyd at dair wythnos), fel arfer yn ddi-dâl.

Beth yw’r manteision?

  • Dysgu am ein hamgylchedd gwaith - byddwn yn rhoi cipolwg i chi o’r hyn sy’n digwydd yn Trafnidiaeth Cymru, ac ar hyd rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

  • Gweithgareddau a thasgau gwaith - byddwch yn cymryd rhan mewn tasgau a gweithgareddau a fydd yn eich helpu i ddysgu.

  • Sgiliau gwaith - byddwn yn defnyddio eich sgiliau a’ch dysgu academaidd blaenorol gyda ni mewn sefyllfaoedd go iawn.

  • Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad newydd a fydd o fudd i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio ein rhaglen profiad gwaith rhithiol newydd yr Hydref hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn ar gael isod.

 

Lleoliad gwaith

Mae lleoliad gwaith gyda ni yn golygu ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn maes penodol o’r busnes am gyfnod penodol o amser, rhwng 1 a 12 mis fel arfer.

Bydd lleoliad gyda ni yn cynnwys:

  • Sgiliau gwaith - byddwn yn defnyddio eich sgiliau a’ch dysgu academaidd gyda ni mewn maes penodol o’r busnes.

  • Datblygu - Gallwn ddarparu hyfforddiant yn y gwaith a hyfforddiant ffurfiol gyda thâl i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau mewn maes penodol.

  • Rhwydweithio - Byddwn yn darparu cyfleoedd rhwydweithio amrywiol i chi wrth i chi ennyn cipolwg gwerthfawr o'r diwydiant trafnidiaeth.