Gemau rhyngwladol Cymru 2026
Cyngor teithio os ydych yn mynd i'r gem bêl-droed
Gallwch gynllunio eich taith i gefnogi Cymru yma.
Yn teithio i Gaerdydd i wylio'r gêm? Gallwn eich cludo yn ôl ac ymlaen i'r gem yn ddi-drafferth a diogel.
Dyddiadau gemau cartref
| Gêm | CG | Dyddiad | Lleoliad |
|---|---|---|---|
| Cymru v Bosnia a Herzegovina Cwpan y Byd FIFA 2026 - Rowndiau Cynderfynol | 19:45 | Dydd Iau 26 Mawrth 2026 | Stadiwm Dinas Caerdydd |
| Cymru v I'w gadarnhau | 19:45 | Dydd Mawrth 31 Mawrth 2026 | Stadiwm Dinas Caerdydd |
Trefniadau cyrraedd y gemau
Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i drefnu gwasanaethau newydd yn ogystal â rhedeg gwasanaethau trên ychwanegol er mwyn eich helpu chi i gyrraedd adref ar ôl y gêm.
Pleser yw gallu cadarnhau ein bod, am y tro cyntaf, wedi llwyddo i drefnu gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi. Bydd y gwasanaeth hwn yn gadael am 23:00 yn dilyn y ddwy gêm. Rydym yn bendant y bydd cefnogwyr yn croesawu'r datblygiad hwn. Rydym yn gobeithio y bydd yr ychwanegiad hwn yn helpu cefnogwyr sy’n byw yng Ngogledd Cymru deithio i lawr i gefnogi gan wneud eu taith yn llawer mwy cyfleus.
Dyma ddatblygiadau eraill:
- Bydd dros 60 o gerbydau trên ychwanegol ar waith ar wasanaethau TrC dros y ddau ddiwrnod cyn ac ar ôl y gemau.
- Dros 160 o gerbydau trên yn gadael Caerdydd ar ôl pob gêm (22:00 ymlaen).
- Mwy o le ar y gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Chaerdydd ar ddiwrnod y gêm.
- Darparu mwy o gerbydau trên a gwasanaethau ychwanegol i amrywiaeth o leoliadau yn gadael Caerdydd gan gynnwys Casnewydd, Abertawe, Caerfyrddin, Caergybi, Glynebwy, Ynys y Barri, Caerffili, Rhymni, Coryton. Treherbert, Aberdâr, a Merthyr Tudful.
Cyngor teithio ar ddiwrnod y gêm
Er mwyn helpu i wneud eich taith mor esmwyth â phosibl, ceisiwch:
- Cynllunio eich taith ymlaen llaw.
- Sicrhewch amser ychwanegol ar gyfer y daith, yn enwedig cyn y gic gyntaf - rydym yn disgwyl y bydd ein gwasanaethau yn brysurach nag arfer.
- Gwirio diweddariadau teithio byw ar wefan neu ap Trafnidiaeth Cymru.
Ar ôl y gêm
Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y gêm. | |
Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. | |
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Gwasanaethau olaf ar ôl y cyngerdd (Caerdydd Canolog)
Dydd Iau 26 Mawrth - Cymru v Bosnia a Herzegovina
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Birmingham New Street | 21:45 |
| Parcffordd Bryste | 22:17 |
| Merthyr Tudful | 22:56 |
| Treherbert | 23:00 |
| Caergybi | 23:00 |
| Penarth | 23:05 |
| Tref Glynebwy | 23:09 |
| Rhymni | 23:11 |
| Aberdâr | 23:14 |
| Maesteg | 23:16 |
| Coryton | 23:18 |
| Caerfyrddin | 23:20 |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Y Fenni | 23:27 |
| Ynys Y Barri | 23:30 |
| Bryste Temple Meads | 23:30 |
| Gaerloyw | 23:35 |
| Pontypridd | 23:45 |
| Henffordd | 00:30 |
| Abertawe | 01:11 |
Dydd Mawrth 31 Mawrth - Cymru v I'w gadarnhau
| Cyrchfan | Amser gadael yn ôl yr amserlen |
| Birmingham New Street | 21:45 |
| Parcffordd Bryste | 22:17 |
| Merthyr Tudful | 22:56 |
| Treherbert | 23:00 |
| Caergybi | 23:00 |
| Penarth | 23:05 |
| Tref Glynebwy | 23:09 |
| Rhymni | 23:11 |
| Aberdâr | 23:14 |
| Maesteg | 23:16 |
| Coryton | 23:18 |
| Caerfyrddin | 23:20 |
| Ystrad Mynach | 23:22 |
| Y Fenni | 23:27 |
| Ynys Y Barri | 23:30 |
| Bryste Temple Meads | 23:30 |
| Gaerloyw | 23:37 |
| Pontypridd | 23:45 |
| Henffordd | 00:30 |
| Abertawe | 01:11 |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.