Mae Cymru’n gartref i sawl man anhygoel er mwyn ymlacio ynddyn nhw. Rydyn ni wedi dewis ein pum sba Cymreig gorau, sy’n cynnig pob dim, o olygfeydd arfordirol i foethusrwydd yng nghanol y ddinas. Maent yn berffaith ar gyfer anrheg pen-blwydd, gwyliau rhamantus neu seibiant bach rhag eich rwtîn dyddiol.
Wrth gynllunio’ch taith gyda ni gan neidio ar drên neu ar fws, cewch ddiwrnod hwylus gan osgoi’r traffig a’r straen o chwilio am fan i barcio’r car. Mae’n ffordd gadarnhaol o deithio sy’n meddwl y gallwch ddechrau ymlacio unwaith i’r daith ddechrau.
Cyn prynu’ch tocyn, cofiwch ddefnyddio ein cynllunydd teithiau trên. Rydyn ni yma i’ch helpu chi.
Ein hoff sbâu Cymreig
1. St Brides Spa Hotel, Saundersfoot
Lleoliad: Saundersfoot, Sir Benfro
Gorsaf agosaf: Gorsaf drenau Saundersfoot
Lleolir gwesty St Brides ar ben clogwyn sy’n edrych dros yr harbwr. Seren y sioe yw’r pwll hydrotherapi ar y tu-allan. Mae wedi’i dwymo a cheir golygfeydd panoramig o’r bae wrth nofio. Ymlaciwch yn y dŵr cynnes a gwyliwch y cychod yn hwylio oddi tanoch.
Yr orsaf agosaf yw gorsaf drenau Saundersfoot sydd ychydig dros filltir o’r gwesty, efallai byddwch yn dymuno cymryd tacsi. Mae gorsaf drenau Dinbych-y-pysgod tua thair milltir i ffwrdd.
- Awgrym da: Ar ôl eich therapi, rhowch gynnig ar ei fwyty o’r radd flaenaf am gynnyrch lleol a gwinoedd da.
- Cyrraedd yno: Mae ein trenau’n mynd i Saundersfoot a Dinbych y Pysgod drwy Abertawe a Chaerdydd.
2. The Quay Hotel & Spa, Deganwy
Lleoliad: Deganwy, Gogledd Cymru
Gorsaf agosaf: Gorsaf drenau Deganwy
Mae’r gwesty The Quay yn cynnig moethusrwydd cyfoes a golygfeydd gwych. Mae’n edrych dros y marina ac Aber Conwy. Mae’r gwesty pedair seren hwn yn teimlo fel lloches gudd, ond mae’n hawdd ei gyrraedd. Gwyliwch foroedd y gogledd yn symud heibio’ch ffenest ac ewch yn syth i Marina Spa. Gallwch ddefnyddio’r pwll dan do neu’r gampfa os hoffech.
Mae teithio yno ar y trên yn gam call ar gyfer gwell brofiad teithio.
- Awgrym da: Defnyddiwch y gwesty fel sylfaen i ymweld â Castell Conwy neu archwiliwch y mynyddoedd cyfagos.
- Cyrraedd yno: Rydym yn rhedeg gwasanethau rheolaidd i orsaf drenau Deganwy. Gellir cyrraedd y gwesty ar droed o’r orsaf.
3. The Rock Spa yng ngwesty’r Metropole Hotel
Lleoliad: Llandrindod, Canolbarth Cymru
Gorsaf agosaf: Gorsaf drenau Llandrindod
Mae Llandrindod yn dref sba enwog ac mae gwesty’r Metropole yn enwog am ei letygarwch cynnes Cymreig. Mae gan y sba, ‘The Rock Spa’ bwll nofio 18 medr o hyd sydd dan do ac wedi’i dwymo yn ogystal â throbwll thermol. Mae’r sawna’n berffaith i dawelu’ch meddwl.
Mae’r Therapyddion yn cynnig therapïau moethus er mwyn helpu’ch corff a’ch meddwl i dawelu ac ymlacio. Mae yna gampfa yno hefyd os ydych yn dymuno cadw’n heini tra’ch bod chi yno.
- Awgrym da: Ewch i’r bwyty Radnor & Miles i roi cynnig ar eu bwydlen tri-chwrs.
- Cyrraedd yno: Mae’r gwesty yng nghanol y dref a dim ond yn ychydig o funudau o’r orsaf ar droed.
4. The Spa yn y Vale Resort
Lleoliad: Hensol, Bro Morgannwg
Gorsaf agosaf: Gorsaf drenau Pont-y-clun
Mae Sba y Vale Resort, sef sba fwyaf Cymru wedi’i lleoli ymysg ystâd maint 650 erw. Dewiswch therapi bach neu mwynhewch ddiwrnod o hunanofal yn un o’u 16 ystafell sy’n cynnwys pwll hydrotherapi ac ystafelloedd aromatherapi stêm. Mae’n ddewis gwych am benwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau neu deulu.
- Awgrym da: Ewch i Ddistyllfa Castell Hensol ar yr ystâd am daith blasu gin.
- Cyrraedd yno: Ewch oddi ar y trên ym Mhont-y-clun gan gymryd tacsi bach cyflym i’r gwesty.
5. Voco St David’s Cardiff
Lleoliad: Bae Caerdydd
Gorsaf agosaf: Gorsaf Bae Caerdydd
Mae sba Voco yng ngwesty St David’s yn lloches urddasol yng nghanol y ddinas. Mae ganddo olygfeydd eiconig o’r glannau a phwll hydrotherapi gyda ffynhonnau siâp gwddf alarch. Beth am nofio yn y pwll 15 medr o hyd neu ymlacio yn y dŵr byrlymus? Lloches hamddenol ydyw sy’n wrthgyferbyniad llwyr i fwrlwm Bae Caerdydd.
- Awgrym da: Mwynhewch bryd o fwyd ym mwyty Tir a Môr i flasu cynnyrch tymhorol Cymreig.
- Cyrraedd yno: Cerddwch o orsaf drenau Bae Caerdydd gan newid trenau yng ngorsaf drenau Heol y Frenhines.
Cynlluniwch eich gwyliau hamddenol heddiw
Y ffordd fwyaf hwylus o gynllunio’ch taith yw gyda’r teclyn cynllunydd teithiau trên. Rydym yn argymell gwirio cyn ichi deithio. Prynwch eich tocynnau’n gynnar er mwyn canfod y prisiau gorau. Nid ydym yn codi pris am ffioedd archebu.
Lawrlwythwch yr ap trenau TrC am ddiweddariadau teithio byw ac i storio’ch tocynnau ar eich ffôn.
Cwestiynau cyffredin
Gaf i brynu fy nhocyn trên a’m triniaeth sba gyda’i gilydd?
Na, bydd yn rhaid ichi drefnu’ch triniaeth sba neu’ch tocyn diwrnod gyda’r gwesty’n uniongyrchol. Gallwn eich helpu gyda’r ochr deithio, fel dod o hyd i’r tocynnau trên Advance gorau er mwyn cyrraedd yno am y pris gorau.
Beth yw’r ffordd orau o gyrraedd sba anghysbell heb gar?
Mae nifer o westai gorau Cymru yn agos iawn at ein gorsafoedd ar droed neu mewn tacsi. Os ydych yn mynd i rywle ychydig yn bellach, fel y Vale Resort, gallwch ddod oddi ar y trên yng ngorsaf drenau Pont-y-clun a chymryd tacsi am yr ychydig filltiroedd olaf.
A oes ostyngiadau i grwpiau sy’n teithio i sba?
Oes, os ydych yn cynllunio diwrnod mewn sba gyda ffrindiau, gall ein tocynnau grŵp leihau’r gost. Sicrhewch eich bod yn teithio â’ch gilydd i gadw’r disgownt yn ddilys.
Sut ydw i’n dod o hyd i wybodaeth am p’un a oes gwasanaeth Dosbarth Cyntaf ar fy nhrên neu beidio?
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein gwasanaethau sy’n cynnig teithio Dosbarth Cyntaf ar ein cynllunydd teithiau trên. Rydym yn rhedeg gwasanaethau Dosbarth Cyntaf ar lwybrau detholedig, gan gynnwys teithiau rhwng Caerdydd a Manceinion neu Gaergybi. Mae’n ychwanegu bach o foethusrwydd i’ch taith.