Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd Newydd

Sefydlwyd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd gan Lywodraeth Cymru fel Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) yn 2021. Mae’n brosiect seilwaith mawr a fydd yn darparu profion cerbydau o’r radd flaenaf, profi seilwaith a storio a chynnal a chadw ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yn y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd Newydd yn gwneud y canlynol:

  • darparu cyfleuster profi ac arloesi rheilffyrdd modern a chynhwysfawr; gan ddarparu’r capasiti a’r gallu ar gyfer profi cerbydau, seilwaith a systemau integredig yn drylwyr o’r prototeip i’r cam gweithredu
  • bod yn gatalydd ar gyfer creu canolfan technoleg rheilffyrdd yng Nghymru; gan ddarparu llwyfan marchnad agored a hyblyg ar gyfer gweithgareddau ymchwil a datblygu blaenllaw sy’n sbarduno ac yn cyflymu arloesedd ar y daith tuag at sero-net
  • helpu i leihau anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo adfywio yng Nghymru; rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i gefnogi datblygu sgiliau drwy gyflogaeth o ansawdd uchel mewn swyddi teg, sicr a chynaliadwy sy’n cyfrannu at leihau anghydraddoldeb rhanbarthol a hyrwyddo adfywio yng Nghymru
  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu a phrofi egwyddorion, safonau a manylebau’r sector rheilffyrdd; gwella cryfderau cystadleuol y DU fel arweinydd byd-eang o ran sicrhau niwtraliaeth carbon, gan gyfrannu at ostyngiad cyffredinol mewn allyriadau carbon ar draws y diwydiant rheilffyrdd, hybu allforion, galluogi mwy o effeithlonrwydd mewn rheilffordd sy’n gost-ddibynnol, adnodd allweddol mewn mesurau lliniaru risg mawr ar gyfer prosiectau.

 

Mae gwefan lawn wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at enquiries@gcre.wales os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.

 

Gwybodaeth am y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd

Statws presennol  

Cyfarfod y tîm

Ymunwch â ni