Trafnidiaeth Cymru Cynllun Busnes 1 Hydref 2018 - 31 Mawrth 2019

Submitted by positiveUser on

1. Cyflwyniad a chrynodeb

1.1 Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio sut byddwn yn datblygu Trafnidiaeth Cymru dros y cyfnod a gwmpesir gan lythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru o 1 Hydref 2018 tan 31 Mawrth 2019.

1.2 Amcan craidd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn y cyfnod hwn fel y nodir yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru yw adeiladu Cymru unedig, cydgysylltiedig a chynaliadwy yn unol â’r amcanion llesiant, bod yn uchelgeisiol, ymdrechu i ymgysylltu a bod yn gysylltiedig yn ei dull cyflawni yn ogystal â’r canlyniadau a gyflawnir y byddwn yn eu cefnogi.

1.3 Mae’r ddogfen hon yn darparu trosolwg o’n hamcanion strategol, ein trefniadaeth a’n gweithgareddau ategol.

 

2. Ein diben, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd

Ein diben

2.1 Mae Trafnidiaeth Cymru yn bodoli er mwyn Cadw Cymru i Symud yn ddiogel trwy ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, cyngor arbenigol a buddsoddiad mewn seilwaith.

Cyd-destun

2.2 Mae system drafnidiaeth gyhoeddus well a mwy integredig yn ffactor allweddol wrth gyflwyno strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae trafnidiaeth yn cysylltu pobl a chymunedau, mae’n sylfaen i ddatblygu cynaliadwy ac mae’n galluogi twf economaidd. Bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell yn creu buddion gwirioneddol ar gyfer pobl, gan gynnwys mynediad gwell i gyfleoedd cyflogaeth a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau, fel addysg ac iechyd, â’r system drafnidiaeth gyhoeddus.

2.3 Cwmni dielw yw Trafnidiaeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno’n llawn. Ledled Cymru a’r gororau, rydym yn cydweithio â darparwyr, partneriaid a rhanddeiliaid trafnidiaeth eraill i ddarparu system drafnidiaeth integredig ddiogel, hygyrch, dibynadwy, fforddiadwy a charbon isel.

2.4 Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn creu polisïau nac yn arfer unrhyw swyddogaethau statudol. Yn hytrach, ni yw cynghorydd ac eiriolwr arbenigol Llywodraeth Cymru ar gyfer materion trafnidiaeth. Rydym yn darparu cyngor technegol fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu datblygu polisïau. Mae popeth rydym yn ei wneud yn cael ei gyflawni oddi mewn i fframwaith polisi Llywodraeth Cymru.

Ein gweledigaeth

2.5 Ein nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth y gall Cymru ymfalchïo ynddo.

Ein gwerthoedd

2.6 Byddwn yn magu ymddiriedaeth gyda’n rhanddeiliaid, ein cwsmeriaid a’n staff, ar sail y canlynol:

▪ Bod yn Ddiogel: Iechyd, Diogelwch a Llesiant.

▪ Bod y Gorau: Perfformiad uchel. Cyflymdra.

▪ Bod yn Gadarnhaol: Yr agwedd briodol: Gallu Gwneud, Parod i Wneud.

▪ Bod yn Gysylltiedig. Mentro. Rhwydweithio.

▪ Bod yn Deg: Trin pobl yn dda. Uniondeb. Cydraddoldeb.

▪ Creu Llwyddiant a rennir: Brwd o blaid y fargen orau.

 

3. Cyd-destun strategol

3.1 Byddwn yn ceisio cyflawni sawl amcan strategol sy’n cyd-fynd â’n diben dros y pump i ddeng mlynedd nesaf er mwyn cefnogi ein gweledigaeth. Bydd ein hadroddiadau blynyddol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd dros y cyfnod hwnnw:

▪ Gwella gwasanaethau i gwsmeriaid: Byddwn yn datblygu agwedd gyffredin at wasanaethau i gwsmeriaid ar draws gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru a’r gororau, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl ac yn cynnwys cymunedau a busnesau er mwyn darparu trafnidiaeth ddiogel, ddibynadwy, fforddiadwy a charbon isel.

▪ Cwbl Integredig: Byddwn yn canolbwyntio ar barhau i wella’r gwaith o integreiddio mathau gwahanol o drafnidiaeth. Er mwyn integreiddio’r gwasanaeth yn llwyddiannus, mae angen darparu gwybodaeth ddibynadwy, system docynnau symlach a gwasanaethau cydgysylltiedig mewn cyfnewidfeydd. Hefyd, mae angen darparu gwasanaethau priodol, wedi’u cydleoli os oes modd, er enghraifft lleoli gorsafoedd bws a rheilffordd gyda’i gilydd.

▪ Ail-fuddsoddi mewn trafnidiaeth: Fel cwmni dielw sy’n llwyr ym meddiant Llywodraeth Cymru, byddwn yn sicrhau bod unrhyw elw o’n gweithredoedd yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth er budd cwsmeriaid – gan ddatblygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn cael ei feddiannu neu ei weithredu fwyfwy yn uniongyrchol gan Trafnidiaeth Cymru.

▪ Sicrhau ein bod yn gwasanaethu pob rhan o Gymru yn effeithiol: Byddwn yn sicrhau ein bod yn llwyr ddeall anghenion lleol a rhanbarthol ledled Cymru er budd defnyddwyr trafnidiaeth heddiw ac yfory. Bydd ein Cyfarwyddwr Datblygu ar gyfer y Gogledd yn cychwyn ei swydd ar ddechrau 2019 i arwain ein Huned Fusnes yn y Gogledd. Hefyd, rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith o sefydlu ein pencadlys newydd gyda phartneriaid allweddol ym Mhontypridd.

▪ Datblygu sgiliau mewn ffordd gynaliadwy: Mae llwyddiant Trafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau i ddarparu gwasanaethau a seilwaith. Byddwn yn ystyried sut i gaffael ar seilwaith a gwasanaethau sy’n arwain at fwy o fanteision lleol a rhanbarthol. Byddwn yn gweithio gyda BBaChau a sefydliadau mawr mewn ffordd gydweithredol er mwyn sicrhau gwerth am arian uniongyrchol trwy ddarpariaeth effeithlon ac effeithiol, yn ogystal â manteision economaidd cynaliadwy ehangach.

▪ Cysylltu cymunedau: Bydd ein dull o gyflawni llawer o’n hamcanion yn gosod sylfaen i’r nod o sicrhau bod cymunedau’n cael eu cysylltu mewn ffordd briodol. Yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth, cefnogir yr amcan hwn trwy ganolbwyntio ar gyfleoedd adfywio a chreu lleoedd i gefnogi twf cynaliadwy a’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.

▪ Modelu trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir: Byddwn yn defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth o ategu penderfyniadau ar fuddsoddi mewn seilwaith. Byddwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru trwy weithio i ddarparu cyfleoedd ar gyfer creu gofod preswyl, busnes a hamdden o fewn pellter cerdded i drafnidiaeth gyhoeddus. Hefyd, byddwn yn gweithio i wella cysylltedd ac yn cynyddu cyfraniad y sector trafnidiaeth at leihau’r ôl troed carbon.

▪ Yr Amgylchedd/Carbon: Byddwn yn gweithredu polisi Llywodraeth Cymru trwy ddatgarboneiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth a gwella ansawdd yr aer yn y cymunedau a wasanaethir ganddynt, gan geisio atal yr effaith negyddol sy’n gysylltiedig ag iechyd.

▪ Cyfrannu at Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu ar yr Economi: Yn ogystal â’r amcanion a nodwyd uchod sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fanteisio ar yr ymrwymiad i raglen hirdymor (pum mlynedd) o gyllid cyfalaf ar gyfer trafnidiaeth er mwyn rhoi prosiectau ar waith yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a manteisio ar bŵer prynu sylweddol y sector cyhoeddus.

3.2 Rydym yn tyfu’n gyflym eisoes er mwyn ymateb i’r heriau uchod ac yn derbyn rhagor o gyfrifoldebau i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru y byddwn, lle gellir cyflwyno achos busnes derbyniol, yn cydgrynhoi trefniadau cyflenwi presennol o dan adain Trafnidiaeth Cymru.

Crynodeb o’r cyd-destun cyfreithiol a pholisi

Gellir crynhoi cyd-destun gwaith Trafnidiaeth Cymru yn dri maes allweddol yn gyffredinol:

3.3 Dyletswyddau cyfreithiol a statudol: Mae’r dyletswyddau cyfreithiol a statudol hyn yn cynnwys y rhai sy’n berthnasol i unrhyw gwmni neu sefydliad, ac maent yn gosod cyfrifoldebau uniongyrchol ar Trafnidiaeth Cymru, ei gyfarwyddwyr a’i weithwyr cyflogedig. Maent yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i):

▪ Cyfraith cwmnïau (er enghraifft y Ddeddf Cwmnïau).

▪ Cyfraith cyflogaeth (gan gynnwys y Ddeddf Cydraddoldeb, y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), y Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol, y Ddeddf Pensiynau, Rheoliadau Amser Gwaith). ▪ Deddfwriaeth iechyd, diogelwch a lles.

▪ Deddfwriaeth amgylcheddol (gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru)).

▪ Deddfwriaeth diogelu data (er enghraifft, y Ddeddf Diogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth).

▪ Deddfwriaeth berthnasol yr UE (er enghraifft, Pecynnau Rheilffordd yr UE, Rheoliad 1370).

Yn ogystal, gan fod Trafnidiaeth Cymru yn arfer swyddogaethau cyhoeddus, mae’n rhaid iddo gydymffurfio â rhagor o ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfraith gyhoeddus. Maent yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

▪ Deddfwriaeth caffael (er enghraifft, Rheoliadau Contractau Cyhoeddus a’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern)

▪ Cyfraith berthnasol yr UE (er enghraifft, Pecynnau Rheilffordd yr UE, Rheoliad 1370)

▪ Egwyddorion Nolan (7 egwyddor bywyd cyhoeddus)

▪ Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru (Rhagfyr 2017) ar Amcanion ar gyfer Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol

▪ Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

3.4 Cynorthwyo Gweinidogion Cymru i gyflawni rhai ymrwymiadau cytundebol a Dyletswyddau Statudol: Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:

▪ Cytundebau Cymru a’r Gororau (cyfres o gytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth yn ymwneud â gweithredu’r gwasanaeth rheilffordd newydd).

▪ Nododd dogfen Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol, a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Medi 2017: “Rydym wedi ymroi i fodloni gofynion Safonau’r Gymraeg drwy ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell.” Mae’r ymrwymiadau hyn wedi’u cynnwys yn y Cynllun Busnes hwn.

▪ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – dyletswydd i weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

▪ Deddf Teithio Llesol (Cymru) - Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn ffordd sy’n ceisio hyrwyddo teithio llesol, gan sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau cysylltiedig, a gwella llwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan y bydd yn “gwella integreiddio â llwybrau teithio llesol, a fydd yn golygu ei bod yn haws i bobl gerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen o orsafoedd.”

▪ Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau, Cytundebau Asiantaeth a’r Cytundeb Grant ODP.

3.5 Rhwymedigaethau a nodir yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru: Mae cyfres o ofynion anstatudol ychwanegol wedi’u cynnwys yn llythyrau cylch gwaith Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys:

▪ Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi (Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi’r Cod hwn, sy’n cynnwys datganiad atal caethwasiaeth blynyddol, datganiad ar bolisi cyflogaeth foesegol, a pholisi ysgrifenedig ar chwythu’r chwiban.)

▪ Fframwaith Polisi Gweinidogion Cymru.

▪ Dogfennau Polisi Llywodraeth Cymru:

  • Symud Cymru Ymlaen 2016-21.
  • Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol.
  • Ffyniant i Bawb: Y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
  • Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru 2017.

3.6 Ar gyfer 2018-19, mae llythyrau cylch gwaith Llywodraeth Cymru wedi cwmpasu’r cyfnodau canlynol:

▪ Ebrill - Mehefin 2018.

▪ Gorffennaf - Medi 2018.

▪ Hydref - 2018 - Mawrth 2019.

 

4. Llywodraethu

4.1 Mae trefniadau llywodraethu allweddol Trafnidiaeth Cymru i helpu i gyflawni ein hamcanion a rhoi’r cynllun busnes hwn ar waith wedi’i nodi isod. Maent yn cynnwys Bwrdd Trafnidiaeth Cymru a’i bwyllgorau a’r Tîm Gweithredol.

4.2 Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am ddarparu llywodraethu cadarn a gweledigaeth strategol, gan gynnwys:

▪ Pennu gweledigaeth, diben a gwerthoedd

▪ Gosod strategaeth a strwythur

▪ Hyrwyddo safonau uchel ym maes cyllid cyhoeddus, cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian

▪ Dirprwyo i reolwyr – gan gynnwys sicrhau bod rheolwyr yn atebol i ddirprwyaethau - llywodraethu a chyflenwi

▪ Bod yn atebol i Lywodraeth Cymru fel unig aelod-warantwr a bod yn atebol i randdeiliaid perthnasol, gan gefnogi’r Tîm Gweithredol a’i herio mewn ffordd adeiladol

▪ Sicrhau bod y Tîm Gweithredol yn atebol am weithredu’r cynllun busnes ac am elfennau allweddol y busnes, h.y. diogelwch, gwasanaeth, costau ac ati.

▪ Helpu’r Tîm Gweithredol trwy gynnig cyngor a gwasanaeth mentora er mwyn datblygu’r strategaeth fusnes a pharhau i wella perfformiad busnes.

▪ Sicrhau bod adnoddau digonol ar gael a bod olyniaeth ar lefel uwch yn cael ei chynllunio’n dda.

4.3 Mae Tîm Gweithredol Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys y Prif Weithredwr a phob un o’r Cyfarwyddwyr Gweithredol.

4.4 Mae’r Tîm Gweithredol yn gyfrifol am:

▪ Redeg y cwmni – gan gynnwys Cyllid, AD, Iechyd a Diogelwch, a materion Cyfreithiol yn unol â’r fframwaith llywodraethu a gytunwyd

▪ Perfformiad prosiectau a chyflawni prosiectau

▪ Perfformiad a chyflawni busnes o ddydd i ddydd e.e. gwasanaethau rheilffordd

Perthynas â Llywodraeth Cymru

4.5 Mae’r strwythurau a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a’i berthynas â Llywodraeth Cymru wedi’u datblygu yn unol â’r canllawiau ar reoli cysylltiadau â phartneriaid allanol a nodir ym Mhennod 7 o Reoli Arian Cyhoeddus Cymru ac Atodiadau 7.1 – 7.4. Mae canllawiau Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth y DU wedi’u hystyried hefyd.

4.6 Mae’r strwythurau a’r llywodraethu yn golygu bod gan Trafnidiaeth Cymru hunaniaeth gyfreithiol glir oddi mewn i fframwaith cadarn sydd wedi’i hen sefydlu, gan sicrhau bod pellter clir rhyngddo a Llywodraeth Cymru a bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau gweithredol annibynnol.

4.7 Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am reoli nodau a pherfformiad cyffredinol Trafnidiaeth Cymru ar lefel strategol, gan sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu mewn ffordd effeithlon er budd y cyhoedd.

4.8 Hefyd, mae strwythur cwmni presennol Trafnidiaeth Cymru yn cynnig hyblygrwydd sylweddol er mwyn addasu’r elfennau hyn yn y dyfodol os oes angen gwneud hynny. Hefyd, mae’r model yn fwy cyfarwydd i’r sefydliadau masnachol y bydd angen i Trafnidiaeth Cymru weithio’n agos gyda nhw.

4.9 Mae Trafnidiaeth Cymru yn derbyn cyllid cyhoeddus. Fodd bynnag rhagwelir y gallem gynhyrchu lefelau cymharol isel o incwm ychwanegol o ffynonellau allanol. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd unrhyw wasanaethau ychwanegol sy’n cael eu darparu gennym i eraill yn gyffredinol yn cael eu darparu ar sail adennill costau.

Egwyddorion y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru

4.10 Caiff Trafnidiaeth Cymru ei drin fel partner darparu i’w ymddiried ynddo, a bydd natur y busnes rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i’n rôl a’n swyddogaethau, a’n cynlluniau fel y prif gorff sy’n gweithredu polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Anogir Trafnidiaeth Cymru i gyfrannu at waith a’r broses o reoli timau noddi a chleientiaid Llywodraeth Cymru.

Partneriaeth gymdeithasol

4.11 Mae undebau llafur yn rhan bwysig o adeiladu ein sefydliad a gan gadw hynny mewn cof mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis cydnabod yr holl undebau perthnasol yn y sectorau er mwyn sicrhau, wrth i ni dyfu, ein gallu i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gymdeithasol.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n gyflogwr teg a chynhwysol ac rydym yn awyddus i hyrwyddo penodiad blaengar o gael cynrychiolydd enwebedig o’r undebau ar ein Bwrdd Cyfarwyddwyr, ac rydym yn awyddus i benodi Cynrychiolydd yr Undebau Llafur.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n cydnabod ac yn gweithio’n gydweithredol â’r Undebau Llafur canlynol:

▪ ASLEF.

▪ FDA.

▪ PCS.

▪ Prospect.

▪ RMT.

▪ TSSA.

▪ Unite.

 

5. Trosolwg o berfformiad ar gyfer 2017-18

5.1 Nododd ein cynllun busnes 2017-18 sawl allbwn allweddol y byddai gwasanaethau cynghori ac ymgynghori Trafnidiaeth Cymru yn eu cefnogi.

5.2 Mae gwaith caffael y Gweithredwr a’r Partner Datblygu (ODP) wedi parhau. Derbyniwyd ymatebion i’n Gwahoddiad i Gyflwyno Tendrau Terfynol (ITSFT) ym mis Rhagfyr 2017, ac maent wedi’u gwerthuso. Dyfarnwyd y contract ar 4 Mehefin 2018.

5.3 Cyhoeddwyd hysbysiad OJEU ar gyfer penodi Partneriaid Cyflenwi Seilwaith (IDP) i’n Fframwaith Cyflenwi Seilwaith Trafnidiaeth Cynaliadwy (STrIDe) ym mis Ionawr 2018.

5.4 Cytunwyd ar set o egwyddorion masnachol sy’n gysylltiedig â throsglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd â Network Rail cyn cyhoeddi’r Gwahoddiad i Gyflwyno Tendrau Terfynol ym mis Medi 2017.

5.5 Mae’r broses Trosglwyddo Pwerau wedi mynd rhagddi ar y cyd â’r Adran Drafnidiaeth, ac mae dau Gytundeb Asiantaeth yn sylfaen i’r broses gaffael. Cytunwyd ar drydydd Cytundeb Asiantaeth, sef Cytundeb Asiantaeth 3 cyn dyfarnu’r contract ODP. Cwblhaodd y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaeth y broses seneddol erbyn Mehefin 2018.

5.6 Ehangwyd tîm Trafnidiaeth Cymru i gydnabod y gofynion rheoli wrth nesáu at ddechrau’r gwasanaeth rheilffordd ym mis Hydref 2018. Sefydlwyd prosiectau newydd ar gyfer Parhad y Gwasanaeth Rheilffordd a Gwelliannau i’r Gwasanaeth Rheilffordd er mwyn canolbwyntio ymdrechion ar fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

 

6. Crynodeb o amcanion strategol a’r cynllun gweithredol

6.1 Mae’r tabl isod yn crynhoi amcanion strategol craidd Trafnidiaeth Cymrufel y nodwyd yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru a’r cynllun gweithredol ategol ar gyfer cyfnod y cynllun busnes hwn (Hydref 2018 – Mawrth 2019). Mae’n nodi’r gweithgareddau a gyflawnwyd gennym rhwng 1 Hydref 2018 tan 4 Rhagfyr 2018 pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei llythyr cylch gwaith a chynlluniau hyd at 31 Mawrth 2019. Mae ein hamcanion strategol yn ategu tair thema graidd Trafnidiaeth Cymru:

▪ Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid

▪ Cyngor arbenigol

▪ Buddsoddiad mewn seilwaith

 

Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid

Gweithgareddau craidd 1: Cefnogi Llywodraeth Cymru i orffen y gwaith o ddod â masnachfraint gyfredol Cymru a’r Gororau i ben.

Cynllun gweithredol (1 Hydref 2018 – 31 Mawrth 2019):Arwain y gwaith o gyflawni trefniadau masnachfraint Cymru a’r Gororau a sicrhau’r drwydded i weithredu o fewn yr amserlen i weithredwr y fasnachfraint rheilffordd ddechrau gweithrediadau ar 14 Hydref 2018.

Trosglwyddo unrhyw brosiectau sy’n weddill dan arweiniad Trenau Arriva Cymru i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, megis prosiect CET a newidiadau i amserlen Caer-Lerpwl pan gyflwynir y fflyd 769.

Dod â’r holl gytundebau masnachol a rheolaethol i ben i alluogi gweithredwr y fasnachfraint i weithredu gan gynnwys cau allan y cytundebau masnachol sy’n weddill.

Gwneud y trefniadau terfynol ar gyfer contractau’r cerbydau newydd a chytundebau cysylltiedig.

Cefnogi’r Adran Drafnidiaeth sy’n arwain y gwaith o gau llyfrau Trenau Arriva Cymru.

 

Gweithgareddau craidd 2: Rheoli’r Gweithredwr a’r Partner Datblygu (ODP).

Cynllun gweithredol (2018-2019)Sefydlu tîm arbenigol i reoli’n effeithiol fasnachfraint Cymru a’r Gororau.

Sefydlu fframwaith llywodraethu cadarn sy’n gweithio i’r busnes fel arfer.

Cynnal prosesau cytundebol a rheoli newid newydd ar gyfer unrhyw newidiadau i rwymedigaethau ymrwymedig, cynlluniau gwella gwasanaethau a/neu gerrig milltir ymrwymiadau a gytunwyd.

 

Gweithgareddau craidd 3: Parhau i ddatblygu brand Trafnidiaeth Cymru yn frand cryf sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid y gall teithwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru ei adnabod a deall ei werthoedd.

Cynllun gweithredol (2018-2019): Sefydlu tîm integredig effeithiol i sicrhau bod negeseuon cadarnhaol a gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid yn cael eu rhannu ar draws yr holl sianelau o dan un brand clir sy’n ‘un tîm’.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o frand Trafnidiaeth Cymru ymhlith defnyddwyr, gan sicrhau bod cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid yn gweld y newid mewn gweithredwr ac yn parhau i deithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Gweithio’n gydweithredol gyda rhanddeiliaid a sefydlu rhwydweithiau newydd i sicrhau bod llais cymunedau a chwsmeriaid yn cael eu clywed wrth i Trafnidiaeth Cymru ddatblygu manylion y cynlluniau cyflawni.

Cyflawni ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r cynlluniau datblygu i roi sicrwydd ein bod ar ben ffordd i gyflawni ein rhaglen 15 mlynedd i weddnewid y gwasanaeth.

 

 

Buddsoddiad mewn seilwaith

Gweithgareddau craidd​​​​​​​ 1: Datblygu ymhellach y gynghrair fframwaith STrIDe a digwyddiadau ymgysylltu â BBaChau.

Cynllun gweithredol (2018-2019):​​​​​​​ Bydd digwyddiadau rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn hysbysu darpar gyflenwyr am gyfleoedd sydd ar y gweill ar gyfer rhaglen gweddnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Cydweithio â Busnes Cymru i uwchsgilio BBaChau gan geisio eu rhoi mewn sefyllfa well i ymgeisio am gyfleoedd fframwaith STrIDe.

 

Gweithgareddau craidd​​​​​​​ 2: mewn seilwaith Cyflawni prosiectau seilwaith rheilffordd gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

▪ Prosiectau i gefnogi’r gwaith o gyflawni Metro ar gyfer De Cymru a Gogledd Ddwyrain Cymru.

▪ Gorsaf Bow Street.

▪ Gorsaf Llanwern a Llinell Stablu Prif Ddigwyddiadau.

Darparu rheolaeth ar gyfer prosiectau mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth.

Cynllun gweithredol (2018-2019): Cyflawni Carreg Filltir 2 (cysyniad dylunio) ar brosiect Gweddnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Cyflawni Carreg Filltir 3 erbyn diwedd Chwefror 2019.

Cyflawni gwaith dylunio ar gyfer prosiectau Llanwern, Bow Street, Cyfnewidfa Caerdydd a seilwaith Glannau Dyfrdwy.

Cymryd Shotton a Glannau Dyfrdwy, Wrecsam Cyffredinol a Glyn Ebwy trwy’r gam “datblygu cynllun”.

 

Cyngor arbenigol

Gweithgareddau craidd 1: Datblygu ymhellach yr Uned Ddadansoddol yn y cwmni, ar sail Model Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru i gefnogi’r gwaith o gynllunio trafnidiaeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Cynllun gweithredol (2018-2019): Penodi Rheolwr Dadansoddol Trafnidiaeth Strategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn Nhachwedd 2018.

Datblygu cynllun busnes Uned Ddadansoddol Cymru Trafnidiaeth Cymru.

Rheoli Grŵp Rheoli Model Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWTM) a chomisiynu’r gyfres gyntaf o weithgareddau cynnal a chadw / uwchraddio ar gyfer y model.

Rhyddhau’r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen llaw (PIN) OJEU ar gyfer modelu trafnidiaeth ranbarthol ar gyfer y ddau fodel rhanbarthol sy’n weddill, yn barod at broses ymgysylltu â’r farchnad.

Ymgysylltu â chynllunwyr rhanbarthol De Orllewin Cymru ac awdurdodau lleol y Deorllewin ynghylch cwmpas Model Trafnidiaeth y De Orllewin a’r Canolbarth.

Ymgysylltu â chynllunwyr rhanbarthol y Gogledd ac awdurdodau lleol ar gwmpas Model Trafnidiaeth y Gogledd.

 

Gweithgareddau craidd 2: Darparu arbenigedd technegol a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion teithio llesol, yn cynnwys adolygu’r Cyfarwyddyd Cynllunio Teithio Llesol, arfarnu ceisiadau grant ac ymholiadau technegol ynghylch dyluniad cynlluniau a chefnogi proses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru o safbwynt teithio llesol ar gyfer cynlluniau a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Cynllun gweithredol (2018-2019): Penodi Arweinydd Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru yn Nhachwedd 2018.

Arolygu awdurdodau lleol fel rhan o ddadansoddiad i ddeall eu dull cyfredol o ddarparu teithio llesol ac i weld lle maen nhw’n credu y gall fod angen cefnogaeth i ddatblygu a darparu cynigion teithio llesol.

Cynghori ar ehangu’r cynllun NextBike yng Nghaerdydd, y potensial ar gyfer teithio llesol yng nghynlluniau Trafnidiaeth Cymru yn Bow Street, cyfnewidfa Caerdydd Canolog a chynigion eraill awdurdodau lleol.

Rhoi cyngor i gynorthwyo’r adolygiad o Gyfarwyddyd Cynllunio Teithio Llesol a chynnal amrywiaeth o weithgareddau eraill megis ehangu’r cynlluniau llogi beiciau, asesu ceisiadau awdurdodau lleol trwy’r Gronfa Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Rhaglenni Cymunedol.

Cynorthwyo Sustrans i adolygu Cyfarwyddyd Darparu’r Ddeddf Teithio Llesol.

 

Gweithgareddau craidd 3: Darparu gallu ymgynghorol a chynghori proffesiynol i gefnogi’r adolygiad o wasanaeth bysiau.

Cynllun gweithredol (2018-2019)Cefnogi a chynghori ar achosion busnes i ddatblygu ymhellach yr Achos Amlinellol Strategol ynghylch datblygu rhwydwaith bysiau cenedlaethol, datrysiad, tocynnau a chefn-swyddfa teithio ymatebol ac integredig.

 

Gweithgareddau craidd 4: Darparu gallu ymgynghorol a chynghori proffesiynol a datblygu’r achos ar gyfer buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth trwy ‘Achosion Amlinellol Strategol Rhaglen’ yn cynnwys achosion busnes unigol ac astudiaethau dichonolrwydd lle bo angen.

Cynllun gweithredol (2018-2019)​​​​​​​: Cydweithio’n agos â’n cadwyn gyflenwi ymgynghorol i ddatblygu achosion busnes a chynnal astudiaethau dichonolrwydd.

Bellach, mae’r Uned Ddadansoddol â’r gallu i weithredu fel cleient hyddysg pan ddaw hi’n fater o helpu i fanylu, cwmpasu ac adolygu’r achosion busnes a gyflawnir. Parhau i ddatblygu a gwella’r gallu hwn wrth i ni ehangu’r Uned Ddadansoddol, a’r cam nesaf fydd gweithio’n gydweithredol gyda’n hymgynghorwyr i baratoi achosion busnes.

 

7. Rhagdybiaethau craidd

7.1 Mae cyllideb dwy flynedd wedi ei ddatblygu i adlewyrchu amcanion strategol a chynllun gweithredol Trafnidiaeth Cymru ac i gyd-fynd â strwythur y rhaglen.

Mae’r gyllideb wedi gwneud y rhagdybiaethau allweddol canlynol:

▪ Dechrau Gweithrediadau Rheilffyrdd - 14 Hydref 2018

▪ Trosglwyddo asedau CVL - Blwyddyn ariannol 2019/20

▪ Symud i swyddfeydd newydd ym Mhontypridd - Blwyddyn ariannol 2020/21

Bydd gofynion ychwanegol a phrosiectau yn amodol i newidiadau pellach i’r cylch gwaith (nad ydynt wedi eu hadlewyrchu yn y gyllideb) a chymeradwyaethau pellach, fel sy’n briodol, gan archebion prynu.

Bydd y proffil gwariant yn cael ei adolygu ymhellach gan yr ODP a’r IDP.

7.2 Er mwyn cyflawni amcanion strategol Trafnidiaeth Cymru, bwriedir ehangu’r tîm yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar yr ochr gyflawni ac ar yr ochr swyddogaethau cymorth.

 

8. Llif arian a chyllid

Gwariant Adnoddau (£’000) 2018-19

Gwasanaethau Rheilffyrdd 97,871

Gwasanaethau Canolog 2,915

Gwasanaethau Newydd * 2,513

Gwariant Adnoddau 103,299

Gwariant Adnoddau Nid-Arian 88

* Yn cynnwys prosiectau ychwanegol a dalwyd yn ystod 2018-19 ond heb gynnwys prosiectau a gasglwyd ar wahân

 

Gwariant Cyfalaf (£’000) 2018-19

Seilwaith Rheilffyrdd 54,851

Seilwaith Corfforaethol 276

Gwasanaethau Newydd 1,751

Gwariant Cyfalaf 56,878

 

8.1 Mae Gwasanaethau Rheilffordd yn cynnwys cost y cyfarwyddiaethau Masnachol, Cyfathrebu a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Diogelwch a dyraniad Gwasanaethau Canolog (Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid).

8.2 Mae’r gyllideb adnoddau heb fod yn arian parod yn ymwneud â dibrisio asedau sefydlog.

8.3 Yn y cyllidebau cyfalaf, mae Seilwaith y Rheilffordd yn ymwneud â chyflwyno ymyraethau seilwaith Metro’r De-ddwyrain, gan gynnwys gwariant cyfalaf ar Linellau Craidd y Cymoedd a phrosiect Stablu a Gorsaf Llanwern. Mae’r gyllideb Seilwaith Corfforaethol yn ymwneud â chostau swyddfeydd.

8.4 Mae gwasanaethau newydd yn cynnwys costau:

▪ Sefydlu a defnyddio’r Uned Ddadansoddol.

▪ Sefydlu Uned Fusnes Gogledd Cymru.

▪ Darparu cyngor rheoli rhwydwaith

▪ Prosiectau ymgynghori y gofynnwyd i ni eu cyflawni gan Lywodraeth Cymru, heb gynnwys unrhyw brosiectau a anfonebwyd i naill ai Lywodraeth Cymru neu drydydd parti.

▪ Datblygu Metro’r Gogledd ac ymyraethau seilwaith heb fod yn Fetro, megis prosiect Gorsaf Bow Street..