Rhoi gwybod am amheuaeth o dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd

Mae gan Trafnidiaeth Cymru ymagwedd dim goddefgarwch at dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd. Os ydych yn gwybod am neu’n amau twyll, llwgrwobrwyo neu lygredigaeth yn erbyn TrC, rhowch wybod i ni’n gyfrinachol er mwyn caniatáu i’n tîm ymchwilio.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau posibl o dwyll a llygredd yn erbyn TrC yr ydym am glywed amdanynt.

  • Twyll o fewn ein cadwyn gyflenwi (er enghraifft, codi gormod ar gyflenwyr, materion gyda thendro, rhoddion a lletygarwch nas datgelwyd neu wrthdaro buddiannau).
  • Twyll talu (er enghraifft, dargyfeirio taliad neu dwyll siec).
  • Twyll refeniw (er enghraifft, tocynnau ffug, cam-drin gostyngiadau teithio neu gynlluniau consesiwn, hawliadau ffug am ad-daliadau neu osgoi hysbysiadau tâl cosb yn dwyllodrus).
  • Twyll budd-daliadau gweithwyr (er enghraifft, hawliadau twyllodrus, taliadau amhriodol, cyflogaeth eilaidd nas datgelwyd, camddefnyddio tocynnau teithio).
  • Dwyn neu gamddefnyddio asedau (er enghraifft, dwyn neu werthu eiddo TrC, camddefnyddio asedau TrC).
  • Mynediad anawdurdodedig i systemau TrC a gwybodaeth gyfrinachol.

 

Rhoi gwybod am eich amheuon

Os yw’r twyll neu’r llygredd yr ydych yn rhoi gwybod amdano yn erbyn TrC, rydym am glywed gennych.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich amheuon, cynhwyswch gymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen FaceUp y gellir ei chyrchu trwy'r ddolen hon: https://www.faceup.com/c/8xugthmu

Neu drwy sganio'r cod QR hwn:

Whistleblowing QR code

Unwaith y caiff eich adroddiad ei anfon, bydd y wybodaeth yn cael ei hanfon at dîm cydymffurfio corfforaethol TrC. Bydd hyn yn galluogi'r tîm i ymchwilio'n llawn i'ch pryderon.

Byddem yn eich annog i roi eich manylion cyswllt ar y ffurflen. Bydd hyn yn galluogi ein harbenigwyr gwrth-dwyll i siarad â chi, os oes angen. Fodd bynnag, rydym yn deall weithiau nad yw pobl yn dymuno i ni gysylltu â nhw. Os yw'n well gennych beidio â chlywed gennym ni, gallwch nodi hyn ar y ffurflen.

Oherwydd natur sensitif ein hymchwiliadau, ni allwn bob amser ddarparu manylion llawn y camau a gymerwyd gennym. Lle bo'n briodol, ein nod yw rhoi casgliad i chi.

Os nad ydych wedi rhoi eich manylion i ni, ni fyddwn yn gallu darparu diweddariadau.

Rhaid i unrhyw gamwedd a ddatgelir gennych fod er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddo effeithio ar eraill, er enghraifft y cyhoedd. Rydych wedi'ch diogelu gan y gyfraith os byddwch yn rhoi gwybod am unrhyw un o'r canlynol:

  • trosedd, er enghraifft twyll
  • mae'r cwmni'n torri'r gyfraith
  • camweinyddiad cyfiawnder
  • mae iechyd a diogelwch rhywun mewn perygl
  • niwed i'r amgylchedd
  • ymddygiad amhriodol neu ymddygiad anfoesegol
  • os ydych yn credu bod rhywun yn cuddio camwedd