Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru

Mae Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru yn eich galluogi i gael teithiau anghyfyngedig am y diwrnod ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws yng ngorllewin Cymru. Gallwch hefyd brynu tocyn wythnosol os yw hynny’n cyd-fynd â’ch anghenion teithio.

Ewch ar fws ac oddi arno gymaint ag y dymunwch, gydag un tocyn. Ceir hyblygrwydd, p’un a ydych yn mynd i’r traeth am ddiwrnod allan gyda’r teulu, yn ymweld â chestyll hynafol neu’n mwynhau taith gerdded arfordirol.

 

Ymhle allaf ei ddefnyddio?

Mae’n ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Nid yw’n ddilys ar:

  • Gwasanaethau TrawsCymru T1 rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd
  • Gwasanaethau 167, X14 ac X26
  • Gwasanaethau National Express 507, 508 a 528
  • Gwasanaethau bws ar gyfer plant ysgol yn unig

 

Faint ydyw’n costio?

Tocyn diwrnod oedolyn£9.00
Tocyn diwrnod plentyn (dan 16 oed neu rhwng 16 a 21 oed gyda fyngherdynteithio) £4.75
Tocyn wythnos oedolyn£36.00
Tocyn wythnos plentyn (dan 16 oed neu rhwng 16 a 21 oed gyda fyngherdynteithio)£17.00

 

Ymhle allaf ei brynu?

Gallwch ei brynu gyda’r gyrrwr pan fyddwch ar y bws. Mae’n ddilys tan y daith olaf a hysbyswyd ar y diwrnod wnaethoch ei brynu, neu am saith diwrnod (gan gynnwys y diwrnod wnaethoch brynu’r tocyn) os taw tocyn wythnos sydd gennych.