Prynu tocynnau bws
Rydyn ni am eich helpu chi i gyrraedd eich cyrchfan yn hawdd. Rydyn ni wedi creu’r canllaw hwn i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r tocyn bws neu’r pris am daith ddiwrnod gorau.
Ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru, gallwch brynu eich tocyn gan y gyrrwr gydag arian parod neu gerdyn digyswllt. Gyda rhai gweithredwyr, gallwch brynu'ch tocynnau ymlaen llaw ar eu gwefan neu ap.
Os oes angen gwybodaeth ynghylch pris tocyn bws penodol, ewch i wefan eich gweithredwr bws. Byddwch hefyd yn dod o hyd i fanylion cyswllt yno os oes angen ichi gysylltu â nhw.
Cynigion a gostyngiadau ar docynnau bws
Mae rhai arbedion mawr i'w gwneud ar draws Cymru pan fyddwch yn teithio ar fws.
Tocynnau aml-weithredwr
Os oes angen pas neu docyn bws neu drên wythnosol gyda mwy nag un gweithredwr arnoch, mae gennym ni opsiynau i’ch helpu chi i arbed arian. Cymrwch olwg ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth ar yr hyn sydd ar gael.
| PlusBus | Tocyn bws gostyngol ar gyfer teithio ar fws yn ddiderfyn o amgylch ardal drefol gyfan tref neu ddinas sy'n cael ei gwasanaethu gan reilffordd. Prynu PlusBus gyda'ch tocyn trên. |
| Rovers and Rangers | Gallwch deithio trwy'r dydd yn ddiderfyn am un diwrnod ar ein trenau a rhai gwasanaethau bws o fewn rhannau penodedig o'n rhwydwaith. |
| Network Rider | Tocyn dydd neu wythnos sy'n ddilys ar wasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan nifer o weithredwyr bysiau ledled De-ddwyrain Cymru. |
| Sherpa'r Wyddfa | Pàs dydd sy'n eich galluogi i neidio ar ac oddi ar y bws sy'n gwasanaethu Parc Cenedlaethol Eryri, drwy gydol y dydd. |
| 1bws | Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ar draws Gogledd Cymru. Gallwch chi deithio'n hawdd heb boeni am ba fws i fynd arni. |
| Tocyn Integredig Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd | Un tocyn integredig sy'n cysylltu ein trenau â Gorsaf Faes Awyr Rhyngwladol Rhws Caerdydd gyda bws 905 Adventure Travel o'r orsaf i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Gallwch hefyd brynu tocyn Wythnosol, Misol neu Flynyddol i helpu i leihau costau teithio. |
| Tocyn bws a thrên cyfunedig rhwng Maerdy a Chaerdydd | Mewn partneriaeth â Stagecoach, rydym wedi lansio tocyn bws a thrên cyfunedig. Mae hyn yn eich helpu chi i deithio heb drafferth ar unrhyw fws Stagecoach rhwng Maerdy a Phorth, ac ar ein trenau rhwng Porth ac unrhyw orsaf drenau yng Nghaerdydd. Gallwch brynu'r tocyn ar y bws neu'r trên, yn dibynnu ar ble rydych yn cychwyn ar eich taith. Mae’r tocyn ar gael fel tocyn dwyffordd am £10 a thocyn wythnos am £31.50. |
| Tocynnau trên a bws TrawsCymru cyfunedig | Gallwch arbed arian ar deithiau detholedig gyda’n tocynnau trên a bws TrawsCymru cyfunedig. Yn hytrach na gorfod defnyddio gwahanol apiau, gwefannau a chwmnïau i brynu eich tocynnau trên a bws ar wahân, gallwch nawr brynu un tocyn ar gyfer eich taith gyfan ar wasanaethau trên a llwybrau bws TrawsCymru penodol. *o'i gymharu â theithiau trên yn unig |
| Tocyn Powys Rover | Cewch deithiau anghyfyngedig am y diwrnod ar wasanaethau bws detholedig - gan gynnwys ein gwasanaethau TrawsCymru T4, T6, T12 a T14. |
| Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru | Cewch deithiau anghyfyngedig am y diwrnod ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws lleol yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. |
Arbed arian drwy dapio ymlaen, tapio i ffwrdd
Ar rai gwasanaethau bws, gallwch dalu am eich taith trwy ‘tapio ymlaen’ a ‘thapio i ffwrdd’ gyda cherdyn neu ddyfais talu digyswllt. Gall hyn arbed amser ichi a’ch helpu chi i ddod o hyd i’r tocynnau bws gorau am eich cyllid. Edrychwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael.
Mae prisiau a thelerau ac amodau yn debygol o amrywio yn dibynnu ar y gweithredwr rydych chi'n teithio gydag ef. Gwiriwch eu hamodau hwy cyn teithio.
| Bws Caerdydd | Cyfrifir prisiau ar sail sawl gwaith y byddwch yn teithio mewn un diwrnod. Bydd mynd ar y bws ac oddi arni am un siwrnai yn gyfystyr ag un tocyn oedolyn ar gyfer y daith honno. Bydd mynd ar sawl taith mewn un diwrnod yn capio'ch pris am docyn diwrnod i oedolion. |
| 1bws | Mae'r tocyn hwn ar gael ar draws Gogledd Cymru. Mae'n caniatáu i chi deithio ar bron unrhyw fws ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio dim ond un tocyn am y diwrnod cyfan am £7.50 yn unig, neu'r wythnos gyfan am £32.00. Mae'r cynnig yn cwmpasu Penrhyn Llŷn i Gaer ac o Ynys Môn i Aberystwyth. |
| Arriva Cymru | Mae'r cynllun tapio ymlaen, tapio i ffwrdd hwn yn rhan o gynllun peilot Gogledd Cymru ond mae hefyd ar gael am gyfraddau gwahanol ym Mangor, Menai, Caer a Mwy, Cymru a Pharthau Wrecsam. Caiff pob taith o fewn y parth ei chapio ar gyfradd y parth. |
| First Cymru | Pan fyddwch chi'n tapio ymlaen ac i ffwrdd ar gyfer un daith, cyfrifir pris sengl yn seiliedig ar y pellter a deithiwch. Os byddwch yn gwneud teithiau ychwanegol yn ystod y dydd, caiff y pris am y rhain ei ostwng. Mae prisiau'n cael eu capio felly ni fyddwch byth yn talu mwy na £6 y dydd. Mae'r cap dydd yn lleihau mewn pris po fwyaf y byddwch chi'n teithio. |
| Stagecoach De Cymru | Caiff pris eich tocyn bws talu wrth fynd ei gyfrifo yn seiliedig ar faint o deithiau yr ydych yn eu gwneud. Os byddwch yn teithio ar draws sawl parth, byddwch yn cyrraedd y terfyn prisiau dyddiol neu wythnosol ar gyfer pob parth yn Ne Cymru. |
Tocynnau TrawsCymru
Dewch o hyd i docynnau fforddiadwy ar gyfer gwasanaethau bws pellter hir yng Nghymru ac archwiliwch ein tirweddau syfrdanol mewn ffordd fwy cynaliadwy.
| Tocyn Diwrnod TrawsCymru | Teithiau anghyfyngedig am y diwrnod ar fysiau T1, T1C, T2, T3, T4, T5, T6, T7, T8, T10, T11, T12, T14, T22, T28, 43, X43, a 460. |
| Tocynnau Hywel Dda | Rydyn ni wedi uno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i roi disgownt ar docynnau bws i staff ar y bwrdd iechyd. |
Gostyngiadau bws eraill
16-21 oed? Defnyddiwch fyngherdynteithio
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac rydych yn byw yng Nghymru, gallwch arbed tua 1/3 oddi ar docynnau bws gyda fyngherdynteithio.
Gallwch ei ddefnyddio unrhyw adeg o’r dydd ac unrhyw ddiwrnod yr wythnos pan fydd eich bws yn gweithredu, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y tocyn yma: https://traws.cymru/cy/mytravelpass-16-21-year-olds
Gwnewch gais ar gyfer eich tocyn yma: https://mytravelpass.tfw.wales/cy
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen gais a’i hanfon yn y post neu ffonio 03002 002 233 er mwyn inni anfon ffurflen gais ac amlen rhadbost atoch.
Ydych chi'n gymwys i gael Cerdyn Teithio Rhatach Cymru?
Os mai yng Nghymru mae eich prif gyfeiriad, rydych yn 60 oed neu'n hŷn, neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd Llywodraeth Cymru, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru. Gallwch hefyd gael teithio am ddim neu am bris gostyngol ar lawer o wasanaethau rheilffordd.
Ewch i'n porth Cerdyn Teithio Rhatach i gael gwybod mwy.
Cwestiynau cyffredin
Rydyn ni’n gwybod bod efallai mwy o gwestiynau gennych am y ffordd y mae teithio ar y bws yn gweithio yng Nghymru. Fodd bynnag, dyma rai o’r pethau y mae’n cwsmeriaid yn gofyn inni’n rheolaidd.
Alla i ddefnyddio fy ngherdyn digyffwrdd ar y bws?
Gelli, mae’r rhan fwyaf o weithredwyr bws yng Nghymru bellach yn derbyn taliadau digyffwrdd. Gallwch brynu’ch tocyn yn uniongyrchol gan y gyrrwr neu ddefnyddio synwyryddion ‘tap ymlaen, tap i ffwrdd’ pan fyddant ar gael. Cofiwch ddefnyddio’r un cerdyn neu ddyfais ar gyfer pob taith i gael y pris gorau.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n anghofio ‘tapio i ffwrdd’?
Os ydych yn anghofio tapio i ffwrdd ar ddiwedd eich taith, byddant yn codi pris am docyn sengl llawn ar ddiwedd y llwybr bws hwnnw. Mae’n hawdd anghofio felly rydym yn argymell ei gwneud hi’n rhan o’ch rwtîn wrth ichi godi i adael y bws. Os ydych yn meddwl eich bod wedi talu gormod, cysylltwch â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid.
Alla i ddefnyddio fy nhocyn trên TrC ar fws?
Gan amlaf, mae tocynnau trên a bws yn docynnau ar wahân i’w gilydd. Fodd bynnag, os oes gennych un o’n pasiau 'Rovers and Rangers', fel y Tocyn Crwydro Cymru, gallwch fwynhau teithio diderfyn ar ein trenau a’r rhan fwyaf o wasanaethau bws ledled Cymru. Mae hyn yn ffordd wych o archwilio ymhellach heb yr angen am sawl tocyn.
Oes hawl i gŵn ddod ar y bws?
Rydyn ni eisiau i bawb gael siwrnai gyfforddus. Mae croeso bob amser i gŵn tywys ond caiff cŵn eraill caniatâd yn ôl disgresiwn y gyrrwr. Mae’n rhaid eu cadw ar dennyn ac ni ddylent eistedd ar y seddi. Gwiriwch â’ch gweithredwr bws penodol cyn ichi deithio, oherwydd gall eu rheolau unigol nhw amrywio.
Dwi wedi colli fy ngherdyn teithio rhatach. Beth ddylwn i wneud?
Peidiwch â becso, gallwn ni’ch helpu i gael un newydd. Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw drwy logio i mewn i’ch cyfrif ar ein gwefan a gwneud cais am un newydd. Os oes angen cymorth arnoch, gallwch ein ffonio hefyd ar 03003 034 240.
Alla i gael ad-daliad os caiff fy mws ei ganslo?
Os oes unrhyw amharu neu os yw’ch gwasanaeth yn cael ei ganslo, mae’n bosib y gallwch gael ad-daliad. Gan fod gwasanaethau bws yn cael eu rhedeg gan gwmnïau gwahanol, bydd angen ichi gysylltu â’r gweithredwr y gwnaethoch brynu’ch tocyn ganddynt i drefnu hyn, fel arfer.